Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Mae'r ICO yn gofyn am adborth gan awdurdodau cyhoeddus i'n helpu i ddatblygu ac asesu canllawiau ac offer newydd sydd wedi’u bwriadu i’w helpu i gydymffurfio â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Y rheswm am hyn yw sicrhau bod y canllawiau yn ateb anghenion y sefydliadau rydyn ni’n eu rheoleiddio. Mae'r grŵp adborth yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus o bob rhan o'r Deyrnas Unedig sy'n rhoi adborth i'r ICO o’u gwirfodd.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Bydd arnon ni angen eich enw a'ch cyfeiriad e-bost. Byddwn hefyd yn gofyn cwestiynau ichi am eich sefydliad, fel maint eich sefydliad a ble mae wedi'i leoli.

Byddwn yn prosesu unrhyw ymatebion rydych chi’n eu rhoi i'n cwestiynau adborth, ynghyd ag unrhyw ddata personol ychwanegol y byddwch chi’n dewis ei roi inni fel rhan o'r ymateb yma. Mae'r wybodaeth yma yn cael ei phrosesu gennyn ni er mwyn llywio’n gwaith. Fyddwn ni byth yn gofyn ichi ddatgelu data categori arbennig.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio'ch enw a'ch cyfeiriad ebost i anfon ceisiadau atoch am adborth drwy’r ebost neu arolwg ar-lein. Os byddwch chi’n rhoi’ch rhif ffôn inni, gallwn ei ddefnyddio i gysylltu â chi i drafod eich sylwadau, neu faterion eraill sy'n ymwneud â'r grŵp adborth.

Gallwn weithiau gyhoeddi’ch ymatebion ar ein gwefan, ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn deunyddiau print neu yng nghyhoeddiadau digwyddiadau i egluro diben ein gwaith a'r rhesymeg y tu ôl iddo. Efallai y byddwn ni hefyd yn defnyddio enghreifftiau rydych chi'n eu rhoi inni i ddangos arferion da a helpu pobl eraill i wella’u cydymffurfiaeth.

Mae’r enwau’n cael eu tynnu o ymatebion cyn eu cyhoeddi. Os ydyn ni am gyhoeddi’ch data personol, byddwn bob amser yn gofyn am eich cytundeb ymlaen llaw. Os nad ydych chi’n cytuno, wnawn ni mo’i gyhoeddi ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich aelodaeth o'r grŵp.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

Byddwn yn cysylltu â chi ar sail dreigl ac yn cadw'r data personol rydych chi'n ei ddarparu am ddwy flynedd ar ôl dyddiad eich ymateb diwethaf.

Beth yw’ch hawliau chi?

Am rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau diogelu data'.

Os nad ydych chi am fod yn rhan o'n grŵp adborth mwyach, anfonwch neges ebostneu ffoniwch ni: 0303 123 1113. Byddwn yn diweddaru’n cofnodion ar unwaith i adlewyrchu’ch dymuniadau.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Na.