Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw ymateb i chi a rhoi gwybodaeth ichi am y ddeddfwriaeth rydyn ni’n ei goruchwylio er mwyn i chi ei chyhoeddi.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Mae arnon ni angen digon o wybodaeth gennych inni allu ymateb ichi. Cymerwn eich enw a’ch rhif/cyfeiriad ebost ac, os yw’n berthnasol, enw’r sefydliad rydych chi’n ei gynrychioli.

Pam mae arnom ei angen

Mae angen inni gadw cofnod o’r rhai rydyn ni wedi siarad â nhw a beth sydd wedi’i geisio/wedi’i ddarparu. Os na allwn ateb eich ymholiad neu’ch cais dros y ffôn, bydd arnon ni angen eich gwybodaeth gysylltu er mwyn inni ymateb.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Dim ond i ymateb i chi ac i greu cofnod o’n cyfathrebu â chi, ar lafar ac ar bapur, y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol.

Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth gysylltu hefyd i anfon ein hysbysiadau i’r wasg atoch.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn gweithredu yn rhinwedd ein swyddogaeth swyddogol fel rheoleiddiwr wrth ddarparu hysbysiadau i’r wasg i chi ac wrth ymateb i ymholiadau’r cyfryngau. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

Er hynny, cewch ofyn inni roi’r gorau i anfon hysbysiadau i’r wasg atoch unrhyw bryd ac fe ddiweddarwn ein cofnodion ar unwaith i gyd-fynd â’ch dymuniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydym yn defnyddio PRgloo a Kantar, sydd mewn partneriaeth ag Agility, i storio cyfathrebiadau a dosbarthu’n hysbysiadau i’r wasg.

Ewch i hysbysiadau preifatrwydd Kantar a PRgloo i gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw’n prosesu data personol.