Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ar gyfer prosesu’ch data personol yw gofyn am eich barn ar gynnwys drafft canllawiau prosiect ExplAIn er mwyn bwydo datblygiad pellach y prosiect.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Os byddwch yn ymateb i'n hymgynghoriad bydd angen eich enw, eich manylion cysylltu a lle bo'n berthnasol y sefydliad rydych chi’n gweithio iddo. Byddwn hefyd yn prosesu unrhyw ddata personol arall y byddwch yn dewis ei ddarparu yn eich ymateb i gwestiynau'r ymgynghoriad.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio’ch enw a'ch manylion cysylltu i gysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau ynghylch eich ymateb.

Efallai y byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac, mewn rhai achosion, yr ymatebion eu hunain. Gellir priodoli’r ymatebion a gyhoeddir i sefydliad pan fo'r wybodaeth honno wedi'i darparu ond ni fydd yn cynnwys unrhyw ddata personol.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Sefydliad Alan Turing a bydd eich gwybodaeth cysylltu a'ch ymateb yn cael eu rhannu gyda nhw. Byddan nhw’n prosesu'r wybodaeth hon at yr un diben. I gael rhagor o wybodaeth am sut maen nhw’n prosesu data personol, gallwch ddarllen eu hysbysiad preifatrwydd.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

Y cyfnod ymgynghori yw 2 Rhagfyr 2019 - 24 Ionawr 2020. Byddwn yn cadw'r data personol a ddarparwch am 12 mis.

Beth yw’ch hawliau chi?

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth a Sefydliad Alan Turingyn rheolwyr ar gyfer y data personol y byddwch yn ei ddarparu. Mae manylion cysylltu’n swyddog diogelu data ni ar gael yma.

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd rydym wedi prosesu’ch data personol, mae gennych chi hawl i gwyno i ni fel awdurdod goruchwylio'r Deyrnas Unedig.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydyn ni’n defnyddio Snap Surveys i gasglu'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Bydd unrhyw ddata sy’n cael ei brosesu gan Snap Surveys i ni yn cael ei storio ar weinyddion yn y Deyrnas Unedig. Gallwch ddarllen eu Polisi Preifatrwydd yma.

Ydyn ni'n neud unrhyw drosglwyddiadau data dramor?

Nac ydyn