Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Mae’r rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei phrosesu yn cael ei rhoi inni’n uniongyrchol gennych chi a hynny am un o’r rhesymau a ganlyn:

  • eich bod wedi gwneud cwyn neu ymholiad inni.
  • eich bod wedi gwneud cais am wybodaeth inni.
  • eich bod am ddod i ddigwyddiad, neu eich bod wedi dod i ddigwyddiad.
  • eich bod yn tanysgrifio i’n e-gylchlythyr.
  • eich bod wedi gwneud cais am swydd neu secondiad gyda ni.
  • Rydych chi'n cynrychioli eich sefydliad.
  • Gallwch ymweld âc ein gwefan a chaniatau i'n defnydd o gwcis.

Rydyn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol yn anuniongyrchol, yn y sefyllfaoedd a ganlyn:

  • ein bod ni wedi cysylltu â sefydliad ynghylch cwyn a wnaethoch a bod y sefydliad yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni yn ei ymateb.
  • bod eich gwybodaeth bersonol wedi’i chynnwys mewn adroddiadau ar droseddau yn erbyn y gyfraith diogelu data (‘adroddiadau ar droseddau’) a roddwyd i ni gan sefydliadau.
  • bod achwynydd yn cyfeirio atoch yn ei ohebiaeth ynglŷn â’r gŵyn.
  • Gan unigolyn sy'n defnyddio ein gwasanaeth cais am fynediad at wybodaeth.
  • bod chwythwyr chwiban yn cynnwys gwybodaeth amdanoch wrth roi gwybodaeth inni.
  • ein bod wedi cipio gwybodaeth bersonol fel rhan o ymchwiliad.
  • Fel rhan o'r dystiolaeth a ddarparwyd i ni gan sefydliad rydyn ni’n ei archwilio, neu wrth asesu addasrwydd sefydliad ar gyfer archwiliad.
  • oddi wrth reoleiddwyr eraill neu gyrff sy’n gorfodi’r gyfraith.
  • Lle rydych chi wedi wneud eich manylion cyswllt ar gael ar wefan eich sefydliad, neu ar gyfryngau cymdeithasol, a rydyn ni'n defnyddio hyn i gysylltu gyda chi ac eich sefydliad yn ein rol fel rheolydd.
  • bod un o’n cyflogeion yn rhoi’ch manylion cysylltu fel cysylltiad mewn argyfwng neu fel canolwr.
  • Rydym yn cynnal gwiriadau asiantaeth cyfeirio credyd personol neu gorfforaethol fel rhan o'r broses i bennu swm y gosb sydd i'w rhoi am dorri Deddf Diogelu Data 2018 a'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig yn ddifrifol, neu wrth geisio adennill taliad o gosb neu orchymyn Llys. Ni fydd gwiriadau a gynhelir ar unigolion yn gadael ôl troed ar ffeil gredyd yr unigolyn. Pan fyddwn yn pennu swm y gosb, efallai y byddwn yn ceisio dilysu gwybodaeth ariannol a ddarparwyd eisoes. Felly, efallai y byddwn yn cynghori unigolion yn uniongyrchol y bydd gwiriadau cyfeirio credyd yn cael eu cynnal, ar yr amod nad yw'n cael ei ystyried yn niweidiol i swyddogaethau rheoleiddio'r Comisiynydd.

Os nad yw’n anghymesur neu’n niweidiol, byddwn yn cysylltu â chi i adael ichi wybod ein bod yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol.

Fel rhan o swyddogaethau statudol a chorfforaethol y Comisiynydd Gwybodaeth, rydym yn prosesu data categori arbennig a data am euogfarnau troseddol. Darllenwch ein Polisi Diogelu ynghylch categorïau arbennig data personol ac euogfarnau troseddol yma.