Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni wrth brosesu’r wybodaeth hon yw hwyluso’r grant.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Pan fydd unigolion yn ymgeisio am grant ymchwil o dan Raglen Grantiau’r ICO, maen nhw’n cyflwyno’u gwybodaeth ar ffurflen gais, yn rhoi manylion eu cynnig ac yn amlinellu cost bosibl yr ymchwil.

Pam mae arnom ei angen

Rydyn ni’n gofyn i’r sawl sy’n ennill grant roi adroddiadau ar eu cynnydd, adroddiad terfynol a rhestr o’u costau terfynol. Dim ond i adolygu’r cais am grant ac i weinyddu a rheoli unrhyw grantiau a ddyfernir y bydd unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei rhoi yn y cais ac yn ystod yr ymchwil yn cael ei defnyddio.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Gallwn gyhoeddi gwybodaeth am brosiectau ar ein gwefan ni’n hunain hefyd, gan gynnwys swm y grant a ddyfarnwyd a phwy gafodd y grant.

Mae rhywfaint o wybodaeth am grantiau a ddyfernir yn cael ei gyhoeddi hefyd ar gofrestr grantiau’r Llywodraeth. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei chyhoeddi ar y gofrestr yn cynnwys enw’r rhaglen grant (sef Rhaglen Grantiau’r ICO yn ein hachos ni) ac enw’r ariannwr (yr ICO), disgrifiad o nodau ac amcanion y grant, gwerth y grant ac arian cyfred y grant, dyddiad dyfarnu’r grant, enw derbynnydd y grant a manylon adnabod y derbynnydd. Mae rhagor o wybodaeth am gofrestr grantiau’r Llywodraeth ar gael yma.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Gan ein bod yn prosesu data personol mewn ceisiadau am grant yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn – dydyn ni ddim yn defnyddio proseswyr ar gyfer yr uchod. Ond, fel y nodwyd uchod, mae gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar gofrestr grantiau’r Llywodraeth.