Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I darllen ein hysbysiad preifatrwydd yn Cymraeg, dewiswch ‘Cymraeg’ ar y dewisydd iaith isod.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthoch chi am yr hyn y gallwch ddisgwyl inni ei wneud â’ch gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn cysylltu â ni neu’n defnyddio un o’n gwasanaethau.

Mae sawl haen i’r hysbysiad. Felly os ydych yn dymuno, mae’n hawdd ichi ddewis y rheswm rydyn ni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol a gweld beth rydyn ni’n ei wneud a hi.

Os yw eich rhwydwaith yn rhwystro YouTube, efallai na fyddwch yn gallu gweld y fideo uchod. Defnyddiwch ddyfais arall.

Bydd pwyso ‘play’ ar y fideo uchod yn gosod cwci trydydd parti. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein polisi cwcis.

Gan ddibynnu ar bolisïau rhwydwaith eich sefydliad, efallai na fyddwch yn gallu gweld y fideo ar y tudalen hwn. Os felly, ewch i'r tudalen ar ddyfais nad yw'n ddyfais rhwydwaith.

Byddwn yn dweud:

  • pam rydyn ni’n gallu prosesu’ch gwybodaeth;
  • i ba ddiben rydyn ni’n ei phrosesu;
  • a oes rhaid ichi ei darparu inni ai peidio;
  • pa mor hir y byddwn yn ei storio;
  • a oes yna bobl eraill sy’n derbyn eich gwybodaeth bersonol;
  • a ydyn ni’n bwriadu ei throsglwyddo i wlad arall; ac
  • a ydyn ni’n gwneud gwaith penderfynu neu waith proffilio yn awtomataidd.

Gwybodaeth y mae angen inni ei rhoi i bawb yw rhan gyntaf yr hysbysiad.