Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...' infographic

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Os ydych chi wedi dweud y byddai gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at ragor o waith gan yr ICO at bwnc yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn prosesu’ch manylion cysylltu ac yn dod i gysylltiad â chi.

Byddwn yn prosesu'r farn neu'r safbwyntiau y byddwch yn eu rhoi yn yr ymatebion er mwyn bwydo’r gwaith o ddatblygu’n polisi, ein canllawiau neu’n gwaith rheoleiddio arall ym maes y cais am safbwyntiau.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Efallai byddwn ni'n defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu gyda chi ac i drafod eich ymateb.

Yn ymgynhoriadau, byddwn yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion.

Yn achos arolygon neu adborth, efallai y byddwn am gyhoeddi’ch enw a / neu eich swydd ochr yn ochr â'ch ymateb ar ein gwefan a’n cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol. Pan fyddwn yn ystyried gwneud hyn byddwn yn egluro’r hyn rydyn ni’n bwriadu ei gyhoeddi a byddwn yn gofyn am eich cytundeb cyn gwneud hynny.

Rydym yn prosesu'r wybodaeth yn fewnol at y diben uchod. Nid ydym yn bwriadu rhannu’ch data personol gydag unrhyw drydydd parti. Bydd unrhyw geisiadau penodol oddi wrth drydydd parti inni rannu’ch data personol gyda nhw yn cael eu trin a’u trafod yn unol â’r darpariaethau yn y deddfau diogelu data.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

Byddwn yn cadw'r wybodaeth yn yr ymateb i’r ymgynghoriad hyd nes y bydd ein gwaith ar bwnc yr ymgynghoriad wedi'i gwblhau.

Beth yw’ch hawliau chi?

Mae gennych chi hawl i ofyn am weld y data personol amdanoch sydd gennyn ni.

Mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol.

Os ydych yn anfodlon ar y modd yr ydyn ni wedi prosesu’ch data personol yna mae gennych chi hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio.

Os ydych am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch [email protected]neu gallwch ein llinell cymorth ar 0303 123 1113.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Rydym ym aml yn defnyddio Snap Surveys i gasglu gwybodaeth ar ein rhan – bydd yn glir os ydyn ni’n defnyddio Snap Surveys. Mae unrhyw ddata sy’n cael ei gasglu gan Snap Surveys i’r ICO yn cael ei storio ar weinyddion yn y Deyrnas Unedig. Gallwch ddarllen eu Polisi Preifatrwydd yma..

Efallai byddwn ni hefyd yn creu a rhedeg arolygon trwy ddefnyddio Smart SurveyGallwch chi ffeindio eu polisi preifatrwydd yma.

Rydym hefyd yn defnyddio Ffurflenni Microsoft at yr un diben.

O bryd i'w gilydd rydym hefyd yn defnyddio'r swyddogaeth pleidleisio ar gyfrif LinkedIn yr ICO i ymgysylltu â defnyddwyr LinkedIn. Gallwch ddarllen eu hysbysiad preifatrwydd.

Rydym yn defnyddio PA Consulting a Yonder Data Solutions ar gyfer ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.