Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...'

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni yw ymchwilio a chymryd camau rheoleiddio yn unol â’n dyletswyddau statudol.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Os oes unrhyw ran o'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi inni mewn perthynas â chais am wybodaeth yn cynnwys data categori arbennig, megis gwybodaeth am iechyd, crefydd neu ethnigrwydd, y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i'w phrosesu yw erthygl 9(2)(g) o GDPR y Deyrnas Unedig, sydd hefyd yn ymwneud â'n tasg gyhoeddus ni a diogelu’ch hawliau sylfaenol chi, ac Atodlen 1, rhan 2(6), o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy'n ymwneud â dibenion statudol a dibenion y llywodraeth.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Rydym yn casglu gwybodaeth rydych chi wedi’i rhoi inni am alwadau a negeseuon testun niwsans rydych chi wedi’u cael ac yr hoffech roi gwybod inni amdanyn nhw. Bydd ein hofferyn rhoi gwybod yn gofyn ichi roi gwybodaeth benodol.

Rydyn ni’n gofyn ichi roi’r rhif ffôn y cawsoch y neges niwsans arno, a gwybodaeth gysylltu rhag ofn y bydd angen inni gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth wrth inni ymchwilio i sefydliad. Ond does dim rhaid ichi roi dim o’ch data personol yn ystod y broses rhoi gwybod.

Byddwn yn gofyn am ran gyntaf eich cod post er mwyn inni greu adroddiadau dienw ynghylch pam mae pobl yn rhoi gwybod am alwadau a negeseuon niwsans.

Pam mae arnom ei angen

Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i ymchwilio a chymryd camau yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Gallwn rannu’r wybodaeth hwn gyda rheoleiddwyr eraill, darparwyr gwasanaethau ffôn, neu’r sefydliadau rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydych yn rhoi’ch data personol inni er mwyn inni weithredu yn rhinwedd ein swyddogaeth swyddogol fe rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich gwrthwynebiad, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn