Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw asesu’r holl droseddau y rhoddir gwybod amdanyn nhw a chymryd camau ynglŷn â nhw.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

O dan y gyfraith, mae’n ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cyfathrebu electronig cyhoeddus roi gwybod i ni am unrhyw dor diogelwch sy’n ymwneud â data personol. Ar y cyd â gwybodaeth am y tor diogelwch, mae arnon ni angen enw a manylion cysylltu cynrychiolydd o’ch busnes.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’r data sy’n cael ei gasglu i gofnodi’r tor diogelwch, gwneud penderfyniadau am y camau y gallem eu cymryd, cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth a rhoi gwybod ichi am unrhyw gamau rydyn ni wedi’u cymryd.

Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi i ofyn a fyddai gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn arolwg boddhad cwsmeriaid. Os hoffech gael eich cynnwys, byddwn yn trosglwyddo eich enw a'ch cyfeiriad e-bost i drydydd parti i gwblhau'r arolwg ar ein rhan.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Os ydych yn cytuno i gymryd rhan yn yr arolwg profiad cwsmeriaid, bydd ICS yn cadw eich ymateb i'r arolwg am 30 diwrnod o'r arolwg yn cau. Byddant yn cadw eich enw a'ch cyfeiriad e-bost am 9 mis o ddyddiad dod i ben yr arolwg.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol ar y ffurflen tor diogelwch yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

Am rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawl fel unigolyn'.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nid ydym yn defnyddio unrhyw broseswyr data ar gyfer ymdrin ag adroddiadau torri data.

Rydym yn defnyddio'r Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (ICS) fel prosesydd data i gynnal ein harolygon boddhad cwsmeriaid.