Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I ddarllen y tudalen yma yn Cymraeg, dewiswch ‘Cymraeg’ ar y dewisydd iaith isod.

Swyddfa’r ICO yng Nghaerdydd yw’r man cysylltu lleol i'r cyhoedd ac i sefydliadau yng Nghymru.

  • Mae gennyn ni wasanaeth cynghori sy’n mynd i’r afael ag ymholiadau cyffredinol ynghylch diogelu data a rhyddid gwybodaeth.
  • Rydyn ni’n hybu arferion da mewn hawliau gwybodaeth, drwy godi ymwybyddiaeth o gyfrifoldebau sefydliadau ar draws pob sector.
  • Rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach i ddylanwadu ar feysydd polisi perthnasol ac i roi hawliau gwybodaeth ar waith.
  • Cyhyd ag y bydd rhywun ar gael, gallwn ddarparu siaradwyr ar gyfer digwyddiadau priodol ym maes codi ymwybyddiaeth.

Safonau’r Gymraeg

Mae'r ICO wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i'r holl randdeiliaid, a sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 fframwaith cyfreithiol i osod dyletswyddau ar sefydliadau cyhoeddus i gydymffurfio â safonau ymddygiad mewn perthynas â'r Gymraeg. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i randdeiliaid sy'n siarad Cymraeg, ac mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth i Gymru yn gweithredu'r gwasanaethau hyn yn unol â'r safonau a osodir yn einHysbysiad Cydymffurfiosydd i'w cael yma.

Dylid gwneud cwynion a chanmoliaeth sy'n ymwneud â'n cydymffurfiaeth â'r Gymraeg yn ysgrifenedig a'u cyfeirio at swyddfa Cymru gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Ymdrinnir â'r rhain yn unol âein safonau gwasanaetha'n gweithdrefn gwyno bresennol.

Gallwch hefyd roi gwybod am gwynion i Comisiynydd y Gymraeg.​

Manylion cysylltu’r ICO yng Nghymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth – CymruYr Ail Lawr, Tŷ ChurchillFfordd ChurchillCaerdydd CF10 2HH

Ffoniwch 0330 414 6421 i siarad â’r tîm os gwelwch yn dda.

Ebost: [email protected]

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.