Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...' infographic

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Fel rhan o'n swyddogaethau statudol, rydym yn ymchwilio i unigolion a sefydliadau am droseddau honedig a gyflawnwyd o dan y ddeddfwriaeth rydym yn ei rheoleiddio (gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, etc) ac yn erlyn yr unigolion a’r sefydliadau hynny. Mae’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi’i enwi’n awdurdod cymwys at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 sy'n gymwys i brosesu data personol gan awdurdodau o'r fath at ddibenion gorfodi'r gyfraith.

Nodir y dibenion hyn yn adran 31 o Ddeddf Diogelu Data 2018 a'r dibenion yw atal, ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau neu roi cosbau troseddol ar waith, a allai gynnwys diogelu rhag bygythiadau i ddiogelwch y cyhoedd ac atal y rheiny. Mae’n gwaith prosesu naill ai'n cael ei wneud am ei bod yn angenrheidiol cyflawni tasg sy'n ymwneud ag un o'r dibenion hyn neu gyda chydsyniad yr unigolyn.

Rydym yn prosesu data personol at ddibenion gorfodi'r ddeddfwriaeth rydyn ni’n rheoleiddiwr ar ei chyfer yn y tri maes a ganlyn:

  • Ymchwiliad troseddol
  • Cuddwybodaeth
  • Adferiad ariannol

Gall ein gwaith prosesu hefyd gynnwys prosesu sensitif sy'n golygu prosesu data categori arbennig at ddibenion gorfodi'r gyfraith. Os felly, rydym yn dibynnu ar gydsyniad yr unigolyn neu, ar yr amod bod y prosesu'n gwbl angenrheidiol at ddibenion gorfodi'r gyfraith, ar amod a nodir yn Atodlen 8 i Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae ein Polisi Diogelu yn esbonio’n gwaith prosesu (gan gynnwys prosesu sensitif) at ddibenion gorfodi'r gyfraith, ein gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio â'r egwyddorion diogelu data a'n polisïau ar gyfer cadw a dileu unrhyw ddata personol. Gallwch ddarllen ein polisiyma.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Pan fyddwn yn ymchwilio i drosedd honedig, rydym yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth a allai gynnwys gwybodaeth am ddioddefwyr, pobl dan amheuaeth, tystion ac unigolion eraill sy'n berthnasol i'r amgylchiadau a'r digwyddiadau.

Pam mae arnom ei angen

Yn ein rôl fel awdurdod cymwys, mae angen inni ganfod a oes troseddau wedi'u cyflawni er mwyn inni gymryd camau cyfreithiol os yw'n briodol. Gan hynny, byddwn yn casglu gwybodaeth sy'n berthnasol i'n hymchwiliad ac a allai gynnwys gwybodaeth amdanoch chi.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion ein hymchwiliad ac at ddibenion erlyn, os yw'n briodol.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gyda gorfodi'r gyfraith ac asiantaethau eraill yn ystod ymchwiliad. Efallai y byddwn hefyd yn ei rannu ag eraill fel tystion arbenigol.

Os ydyn ni wrthi’n ystyried cymryd camau cyfreithiol, byddwn yn rhannu'r wybodaeth hon gyda'n cwnsler cyfreithiol allanol, y llysoedd ac unrhyw gyd-ddiffynyddion a'u cynrychiolwyr cyfreithiol. Mae achosion llys yn cael eu cynnal yn gyhoeddus ac felly fe allai data personol, gan gynnwys data categori arbennig, gael ei gyhoeddi yn ystod y trafodion.

Pan fyddwn yn erlyn rhywun yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn cyhoeddi hunaniaeth yr unigolyn a gollfarnwyd yn ein Hadroddiad Blynyddol, ar ein gwefan neu'n dosbarthu'n ehangach i'r cyfryngau.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Mae gennych chi hawl i gael mynediad at eich data personol sy’n cael ei gadw gennyn ni neu ar ein rhan. Mae gennych chi hawl hefyd i gael data anghywir wedi'i gywiro a data anghyflawn wedi'i gwblhau, ac i'ch data personol gael ei ddileu o dan rai amgylchiadau.

Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth yn uniongyrchol i destunau data mewn achosion penodol i'w galluogi i arfer eu hawliau. Gallai hyn fod mewn achosion lle

rydym yn prosesu eich data personol a gasglwyd heb eich gwybodaeth.

Ni fyddwn yn gwneud hyn lle byddai gwneud hynny'n niweidiol i'n hymchwiliad neu am resymau eraill a nodir yn a.44 (4) Deddf Diogelu Data 2018.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Rydym yn defnyddio darparwyr gwasanaethau allanol yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y system rheoli achosion a ddefnyddiwn i brosesu achosion rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw at ddibenion gorfodi'r gyfraith.

Rydym weithiau'n defnyddio darparwyr gwasanaethau allanol i gyflawni dadansoddiad fforensig o dystiolaeth mewn achosion rydyn ni’n ymchwilio iddyn nhw at ddibenion gorfodi'r gyfraith neu ar gyfer gwaith adennill arian.

Rydyn ni o dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod y wefan yn hygyrch yn unol â chanllawiau WCAG 2.1. Bydd unrhyw erlyniadau a restrir ar ein gwefan hefyd yn cael eu prosesu gan ein prosesydd data, Silktide, i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'r canllawiau hyn.

Ydyn ni'n neud unrhyw drosglwyddiadau data dramor?

Mae unrhyw drosglwyddiadau’n cael eu gwneud yn unol â'n rhwymedigaethau diogelu data.