Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...' infographic

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ar gyfer casglu'r wybodaeth hon yw y gallwn hwyluso'r gynhadledd fideo, y grŵp ffocws, y weminar neu'r digwyddiad darlledu byw a darparu mynediad ehangach i'w gynnwys.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw tasg gyhoeddus, o dan erthygl 6(1)(e) o’r GDPR.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Os ydych yn bresennol neu'n gyflwynydd yn un o'r digwyddiadau hyn, bydd arnon ni angen cyfeiriad ebost gennych.

Rydyn ni’n recordio rhai digwyddiadau a bydd delwedd a sain pob cyflwynydd yn cael eu cipio wrth recordio. Os ydych yn bresennol efallai y cewch chi’r opsiwn o rannu’ch delwedd a'ch sain yn ystod y sesiwn. Os byddwch yn dewis gwneud hynny, bydd hyn hefyd yn cael ei gofnodi yn y recordiad.

Bydd rhai digwyddiadau'n cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda chymedrolwr. Os byddwch yn dewis rhyngweithio â'r sesiwn holi ac ateb, efallai y bydd eich sylwadau'n cael eu cyhoeddi i eraill yn y digwyddiad a hefyd yn ffurfio rhan o'r recordiad.

Os mae digwyddiad yn cael ei recordio, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi cyn law.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Rydyn ni’n defnyddio’ch cyfeiriad ebost i roi manylion y digwyddiad i chi. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw recordio sy'n digwydd. Ar gyfer digwyddiadau wedi'u recordio byddwn hefyd yn anfon dolen atoch i'r recordiad unwaith y bydd y digwyddiad wedi dod i ben.

Ar gyfer rhai digwyddiadau, efallai y byddwn yn cyhoeddi'r recordiad ar ein gwefan, ein sianeli YouTube neu’n sianel Vimeo felly ei fod ar gael i gynulleidfa ehangach. Os bydd recordiad o ddigwyddiad yn cael ei gyhoeddi byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi cyn y digwyddiad.

Nid ydym yn cyhoeddi rhestrau cynrychiolwyr ar gyfer cynadleddau fideo, grwpiau ffocws, gweminarau neu ddigwyddiadau darlledu byw ond gall eich enw a'ch cyfeiriad e-bost fod yn weladwy i eraill sy'n bresennol yn ystod y digwyddiad.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

Byddwn yn cadw'ch ebost ac unrhyw recordiad o'r digwyddiad am 12 mis.

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler '‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Os ydych am arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch [email protected]neu gallwch ein llinell cymorth ar 0303 123 1113.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Rydym yn defnyddio Microsoft Teams i cyflwyno ein weminar a digwyddiadau darlledu byw.

Rydym yn defnyddio Youtube a Vimeo i gyhoeddi rhai digwyddiadau.

Mae'r tri safle yn gollwng cwcis sydd ddim yn hanfodol

Ydyn ni'n neud unrhyw drosglwyddiadau data dramor?

Ydyn - ni'n trosglwyddo data i ganolfannau data Microsoft, Vimeo neu Google.