Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Ar y tudalen hwn

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth brosesu’ch data personol yw eich cofrestru chi ar yr addewid.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Bydd arnon ni angen eich enw a’ch cyfeiriad ebost chi ac enw’ch sefydliad.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio’ch cyfeiriad ebost er mwyn anfon baner yr addewid atoch, sef baner a all gael ei defnyddio ar eich gwefan ac ar eich cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn defnyddio’ch enw chi ac enw’ch sefydliad ar ein gwefan ninnau i hybu’ch ymrwymiad i arferion da ynglŷn â diogelu data.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol mewn addewidion yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’ yn y rhestr ar y chwith o dan y pennawd ‘Gwybodaeth gyffredinol’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn