Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni wrth brosesu'r wybodaeth hon yw er mwyn inni asesu codau ymddygiad neu feini prawf cynlluniau ardystio sy’n cael eu cyflwyno inni i'w cymeradwyo ac ymateb i chi.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Er mwyn asesu'r ceisiadau a chymeradwyo codau ymddygiad neu feini prawf cynllun ardystio, mae arnon ni angen enw a manylion cysylltu prif bwynt cysylltu’ch sefydliad ac unrhyw gynrychiolwyr lle bo'n berthnasol.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio'r data sy’n cael ei gasglu i asesu'r cod ymddygiad neu’r meini prawf ardystio, i roi’r gymeradwyaeth a'ch hysbysu chi o'r canlyniad.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn cyhoeddi codau ymddygiad neu feini prawf ardystio a gymeradwywyd, ond fydd y rhain ddim yn cynnwys data personol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am ba mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol ar gyfer y cais am god ymddygiad neu feini prawf ardystio yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu'ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich gwrthwynebiad, sy'n dibynnu ar pam rydyn ni'n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau fel unigolyn'.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn