Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Mae’r ICO yn gofyn am adborth gan SMEs cyn cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer y sector hwnnw, a hynny er mwyn helpu i sicrhau bod y canllawiau'n ateb anghenion SMEs. Mae'r grŵp adborth yn cynnwys SMEs o bob rhan o'r Deyrnas Unedig sy'n rhoi adborth dros y ffôn, drwy ebost neu ar-lein i’r ICO o’u gwirfodd.

Ar ôl ichi ddweud yr hoffech chi ymuno â'n grŵp adborth, byddwn yn prosesu’ch enw a'ch manylion cysylltu, er mwyn gofyn am eich adborth ar ganllawiau, offer a gwasanaethau perthnasol yr ICO.

Byddwn yn prosesu unrhyw ymatebion a roddwch i'n cwestiynau adborth, ynghyd ag unrhyw ddata personol ychwanegol y byddwch yn dewis ei roi inni fel rhan o'r ymateb hwn. Caiff yr wybodaeth hon ei phrosesu gennym er mwyn bwydo datblygiad ein canllawiau. Fyddwn ni byth yn gofyn ichi ddatgelu data categori arbennig.

Efallai y byddwn weithiau'n cyhoeddi eich ymatebion fel astudiaethau achos ar ein gwefan, ar gyfryngau cymdeithasol, mewn deunyddiau printiedig neu mewn cyhoeddiadau digwyddiadau er mwyn arddangos arfer da a helpu eraill i wella eu cydymffurfiaeth diogelu data. Mae'r ymatebion yn ddienw cyn eu cyhoeddi. Os ydym am gyhoeddi eich data personol byddwn bob amser yn gofyn am eich cytundeb ymlaen llaw. Os nad ydych yn cytuno na fyddwn yn ei gyhoeddi ac na fydd hyn yn effeithio ar eich aelodaeth o'r grŵp.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Bydd angen eich enw, eich rhif ffôn a'ch cyfeiriad e-bost arnom. Byddwn hefyd yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich busnes fel ein bod yn deall beth rydych yn ei wneud, maint eich sefydliad a ble rydych wedi'ch lleoli.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio’ch enw, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad ebost i anfon ceisiadau atoch am adborth dros y ffôn, drwy’r ebost neu drwy arolwg ar-lein.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

Byddwn yn cysylltu â chi ar sail dreigl ac yn cadw'r data personol rydych chi'n ei ddarparu am ddwy flynedd o ddyddiad eich ymateb diwethaf.

Beth yw’ch hawliau chi?

Am rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau diogelu data'.

Os nad ydych am fod yn rhan o'n grŵp adborth SMEs mwyach, Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn.