Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth brosesu’ch data personol yw er mwyn inni allu cysylltu â chi ynghylch defnyddio stori’ch sefydliad fel astudiaeth achos.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o’r GDPR, sy’n caniatáu inni brosesu data personol pan fydd angen gwneud hynny i gyflawni’n tasgau cyhoeddus fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Byddwn hefyd yn gofyn am fanylion am sut mae’ch sefydliad yn cydymffurfio ag arferion diogelu data sy'n berthnasol i'r astudiaeth achos.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio’ch rhif ffôn a/neu’ch cyfeiriad ebost i gysylltu â chi er mwyn cael yr wybodaeth y mae arnon ni ei hangen i'w defnyddio yn yr astudiaeth achos.

Byddwn yn defnyddio enw eich sefydliad a'r manylion a roddwch amdano ar ein gwefan a sianeli cyfathrebu eraill megis cyfryngau cymdeithasol i rannu eich esiampl. Mae'r ymatebion yn ddienw cyn eu cyhoeddi. Os ydym am gyhoeddi eich enw a theitl eich swydd ochr yn ochr â'ch astudiaeth achos, byddwn bob amser yn gofyn am eich cytundeb ymlaen llaw.

Os byddwch yn darparu eich manylion i'w defnyddio fel enghraifft diwedd cyfnod pontio, bydd eich manylion hefyd yn cael eu rhannu â'r tîm cyfathrebu yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Gallant hefyd gysylltu â chi i gael manylion am gydymffurfiaeth eich sefydliad â diogelu data sy'n berthnasol i'r astudiaeth achos. Gellir rhannu eich astudiaeth achos hefyd drwy eu sianeli cyfathrebu. Mae copi o hysbysiad preifatrwydd y DCMS ar gael yma..

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einamserlen cadw.

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol at ddibenion astudiaethau achos yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr. Gan hynny, mae gennych chi hawl i wrthwynebu prosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallwn wrthod eich gwrthwynebiad, sy'n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’ yn y rhestr ar y chwith o dan y pennawd ‘Gwybodaeth gyffredinol’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Na.