Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Os byddwn yn casglu data personol drwy ein gwefan, byddwn yn agored i hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol a byddwn yn esbonio'r hyn rydym yn bwriadu ei wneud ag ef.

Cwcis

Rydym yn defnyddio offeryn cwcis ar ein gwefan i sicrhau cydsyniad ar gyfer y cwcis dewisol rydyn ni’n eu defnyddio.

Mae cwcis sy'n angenrheidiol ar gyfer swyddogaethau, diogelwch a hygyrchedd wedi’u gosod, ac nid ydynt yn cael eu dileu gan yr offeryn.

Gallwch darllen mwy ynglyn a sut ydyn ni'n defnyddio cwcis, a sut i newid eich dewisiadau cwcis, ar eintudalen cwcis.

Dadansoddeg

Rydyn ni'n defnyddio dadansoddiadau Silktide ar ein gwefan. Mae dadansoddiadau Silktide yn casglu gwybodaeth am sut ydy ymwelwyr yn defnyddio ein gwefan. Rydyn ni'n defnyddio y gwybodaeth hwn i greu adroddiadau ac i helpu ni i wella'r gwefan. Mae'r gwybodaeth ni'n casglu yn cynnwys y nifer o ymwelwyr i'r gwefan, o le mae'r ymwelwyr yma wedi dod, ac y tudalennau da nhw wedi ymweld. Mae'r gwybodaeth yn cael ei gasglu mewn ffordd lee nad ydy unrhywun yn cael ei adnabod yn uniongyrchol. Unwaith rydyn ni wedi casglu'r gwybodaeth, defnyddir cyfeiriad IP a manylion porwr o'r ymwelydd i greu 'rhif hud' sy'n newid pob 24 awr. Anghofir y cyfeiriad IP a manylion porwr penodol yn syth. Rydyn ni'n dibynnu ar ganiatad ar gyfer ein sylfaen cyfreithlon i brosesu, a dim ond yn casglu'r gwybodaeth dadansoddol os rydych chi'n dewis i ddefnyddio'r cwcis nad yw'n hanfodol a thechnoleg tebyg.

Injan chwilio

Funnelback sy’n rhedeg ein chwiliad gwefan a’n chwiliad hysbysiadau penderfynu. Mae ymholiadau a chanlyniadau chwilio yn cael eu cofnodi’n ddienw i’n helpu i wella’n gwefan ac i wella sut mae’r chwiliad yn gweithio. Does dim gwybodaeth bersonol a all gael ei hadnabod yn cael ei chasglu gennyn ni na Funnelback.

Diogelwch a pherfformiad

Rydym yn defnyddio mur cadarn cymhwysiad gwe trydydd parti o Cloudflare i helpu i gynnal diogelwch a pherfformiad ein gwefan. Mae'r gwasanaeth yn gwirio bod traffig i'r safle yn ymddwyn fel y byddai disgwyl. Bydd y gwasanaeth yn rhwystro traffig nad yw'n defnyddio'r safle yn ôl y disgwyl. I ddarparu'r gwasanaeth hwn, mae Cloudfareyn prosesu cyfeiriadau IP ymwelwyr safle.

Rydym yn lletya’n gwefan yn Microsoft Azure yn y Deyrnas Unedig ac yn cadw gwybodaeth am y traffig am 12 mis.

Rydyn ni'n defnyddio Shout Digital Ltd i ddatblygu ac i gefnogi ein gwefan a chymwysterau digidol. Efallai mi fydd mynediad gyda nhw i'r data personol rydych yn rhannu gyda ni trwy ein gwefan, ond dim ond pan mae hi'n angenrheidiol i nhw i ddarparu ni gyda cefnogaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Y diben ar gyfer gweithredu'r uchod yw cynnal a monitro perfformiad ein gwefan a cheisio’n gyson i wella'r wefan a'r gwasanaethau y mae'n eu cynnig i'n defnyddwyr. Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw naill ai Erthygl 6(1)(a) o GDPR y Deyrnas Unedig, er enghraifft pan fydd arnon ni angen eich cydsyniad ar gyfer y cwcis dewisol a ddefnyddiwn, neu Erthygl 6(1)(f) sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo'n angenrheidiol ar gyfer ein buddiannau cyfreithlon, er enghraifft, er mwyn cynnal uniondeb ein systemau TG a pharhad ein busnes.

Beth yw’ch hawliau chi?

Gan ein bod yn prosesu’ch data personol at ein buddiannau dilys ni fel y’u nodwyd uchod, mae gennych hawl i wrthwynebu’n gwaith yn prosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys y gallen ni wrthod eich gwrthwynebiad, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.