Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni wrth brosesu’r wybodaeth hon yw cael asesu Asesiad o Effaith ar Ddiogelu Data (DPIA) a gyflwynwyd at ddibenion ymgynghori ac ymateb i chi.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Rhaid i reolwyr data gyflwyno DPIAs i ni os nad oes modd i risgiau’r gwaith prosesu arfaethedig gael eu lliniaru. Bydd yr wybodaeth hon yn cynnwys enw a manylion cysylltu cynrychiolydd y rheolwr.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio’r data a gesglir ar y ffurflen i gofnodi’r DPIA ac i wneud penderfyniadau am y gwaith prosesu. Gallem gysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth ac i roi gwybod ichi am ganlyniad yr ymgynghoriad.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol ar y ffurflen ymgynghori ynghylch DPIA yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn