I gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod, gweler ein ffeithlun 'what we do with your personal data when you...' infographic
Cynnwys
- Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
- Yr hyn y bydd arnom ei angen
- Pam mae arnom ei angen
- Yr hyn a wnawn gydag ef
- Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
- Beth yw’ch hawliau chi?
- Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
- Ydyn ni'n neud unrhyw drosglwyddiadau data dramor?
Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
Ein pwrpas ar gyfer casglu eich manylion cyswllt yw fel y gallwn ddarparu gwasanaeth i chi a rhoi gwybod i chi am waith, arweiniad a digwyddiadau'r ICO.
Rydym yn casglu gwybodaeth ddadansoddeg fel y gallwn ddarparu gwasanaeth personol, monitro effaith ein gwaith a gwella'r cylchlythyr.
Y sail gyfreithlon rydyn ni’n dibynnu arni er mwyn prosesu’ch manylion cysylltu a'ch dewisiadau diddordeb yw eich cydsyniad o dan erthygl 6(1)(a) o GDPR y Deyrnas Unedig.
Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu gwybodaeth ddadansoddol yw erthygl 6(1)(e) – tasg gyhoeddus.
Yr hyn y bydd arnom ei angen
Eich cyfeiriad ebost.
Gallwch hefyd roi eich enw a nodi pynciau penodol yr hoffech gael negeseuon ebost amdanyn nhw, ond mae hyn yn ddewisol.
Rydyn ni hefyd yn casglu cofnodion o'r dolenni rydych chi'n clicio arnyn nhw yn y cylchlythyr.
Pam mae arnom ei angen
Rydym yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i anfon ein e-gylchlythyr atoch a'ch enw, os caiff ei ddarparu, i bersonoli'r cylchlythyr a dderbyniwch.
Rydyn ni’n defnyddio’ch dewisiadau pwnc er mwyn sicrhau eich bod yn cael cynnwys sydd o ddiddordeb ac sy'n berthnasol i chi neu'ch sefydliad.
Rydyn ni’n casglu cofnodion o'r dolenni rydych chi'n clicio arnyn nhw drwy ddefnyddio llinynnau URL wedi'u hamgodio. Nid yw llinynnau URL wedi'u hamgodio yn defnyddio unrhyw dechnoleg (e.e. storfa leol, cwcis etc) i storio neu gyrchu data ar eich dyfais. Rydyn ni’n casglu'r wybodaeth hon i werthuso effaith ein gwaith ac i'n helpu i wella cynnwys ein cylchlythyr.
Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r cofnodion hyn i anfon cynnwys wedi'i deilwra atoch i'ch sector neu feysydd o ddiddordeb. Er enghraifft, os ydych yn clicio ar ddolen am Ddeallusrwydd Artiffisial – efallai y byddwn yn anfon cylchlythyrau amlach atoch am ein gwaith technoleg.
Yr hyn a wnawn gydag ef
Dim ond i ddarparu'r gwasanaeth, monitro effaith ein gwaith a gwella'r cylchlythyr yr ydyn ni’n defnyddio’ch manylion.
Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau ar ôl i chi gyflwyno'ch manylion. Rydym yn anfon un cylchlythyr misol ac yna cylchlythyrau ad hoc pan fydd cyhoeddiadau neu gyhoeddiadau sylweddol.
Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler ein hamserlen cadw gwybodaeth..
Beth yw’ch hawliau chi?
Rydyn ni’n dibynnu ar eich cydsyniad i brosesu’ch manylion cysylltu a'ch dewisiadau diddordeb. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hawl i dynnu'ch cydsyniad yn ôl, neu i wrthwynebu prosesu’ch data personol at y diben hwn unrhyw bryd. Os ydych am dynnu'ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd, ebostneu ffoniwch ni ar 0303 123 1113. Os gwnewch hynny, byddwn yn diweddaru ein cofnodion ar unwaith i adlewyrchu eich dymuniadau.
Rydyn ni’n dibynnu ar dasg gyhoeddus i brosesu data dadansoddeg. Mae hyn yn golygu bod gennych chi hawl i wrthwynebu prosesu’ch data personol at y diben hwn unrhyw bryd.
Os byddwch yn dad-danysgrifio rhag derbyn y cylchlythyr, byddwn yn dal i brosesu eich gwybodaeth gyswllt a'r data dadansoddeg. Os ydych am wrthwynebu prosesu'r wybodaeth hon, cyflwynwch eich cais i [email protected].
I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’.
Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
Ydyn – rydyn ni’n defnyddio Upland Adestra i anfon yr e-gylchlythyr. I gael rhagor o wybodaeth, gweler hysbysiad preifatrwydd yr Upland's.
Ydyn ni'n neud unrhyw drosglwyddiadau data dramor?
Ydy – mae data tanysgrifwyr yn cael ei letya yn Iwerddon a dim ond i staff yr ICO a staff cymorth Adestra sy'n darparu cymorth technegol yn y Deyrnas Unedig neu Wlad Pwyl y mae ar gael.