Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Bydd data personol yn cael ei brosesu er mwyn hwyluso cyfnod BETA y gwasanaeth Cyngor Arloesi. Bydd y cyfnod BETA yn profi ystyriaethau dylunio'r gwasanaeth sy'n ymwneud â rhoi gwasanaeth cyngor uniongyrchol ar waith yn achos sefydliadau sy'n arloesi gyda'r defnydd o ddata personol.

Y sail gyfreithiol rydyn ni’n dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) (tasg gyhoeddus) o’r GDPR y DU i brosesu’r data personol.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Byddwn yn prosesu eich enw, cyfeiriad ebost ac unrhyw fanylion cyswllt eraill a ddarperir gennych.

Gallwn gyhoeddi’ch cwestiwn ar ein gwefan, yn ogystal â'n hateb, ond fydd y rhain ddim yn cynnwys data personol.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio'ch enw a’ch manylion cysylltu i ymgysylltu â chi fel rhan o gyfnod BETA y gwasanaeth Cyngor Arloesi.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

Bydd yr ICO yn cadw y data rydych chi'n darparu am 6 blwyddyn mewn cytundeb gyda'nAmserlen Cadw a Gwaredu.

Beth yw’ch hawliau chi?

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'eich hawliau diogelu data''.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Na.