Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
Gallwch chi defnyddio ein gwasanaeth cais gwrthrych am wybodaeth i ofyn am eich gwybodaeth personol oddi wrth sefydliad.
Rydyn ni'n darparu y gwasanaeth yma i helpu chi i ddefnyddio eich hawl o fynediad ac i gefnogi y sefydliad sy'n derbyn eich cais.
Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.
Os yw'r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi inni fel rhan o'ch cais yn cynnwys data categori arbennig, fel gwybodaeth am iechyd neu grefydd neu ddata am droseddau, y sail gyfreithlon ychwanegol rydyn ni’n dibynnu arni i'w phrosesu yw Erthygl 9(2)(g) o GDPR y DU, sydd hefyd yn ymwneud â'n tasg gyhoeddus ac Atodlen 1 rhan 2(6) o Ddeddf Ddiogelu Data 2018 sy'n ymwneud â dibenion statudol a dibenion y llywodraeth.
Yr hyn y bydd arnom ei angen
Fe fydd angen ichi roi o leiaf eich enw a'ch cyfeiriad ebost. Rydyn ni hefyd yn eich annog i ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol arall, fel eich dyddiad geni, eich rhif ffôn ac unrhyw gyfeirnod cwsmer perthnasol, a hynny er mwyn helpu'r sefydliad i ddod o hyd i unrhyw wybodaeth berthnasol ac ymateb i'ch cais.
Yr hyn a wnawn gydag ef
Byddai'r gwasanaeth yn creu e-bost i'r sefydliad rydych chi'n enwi, gyda'ch cais am eich gwybodaeth personol a phopeth y maen nhw'n angen i ymateb. Byddwch chi hefyd yn derbyn copi am eich recordiau. Dydyn ni ddim yn gweld yr ymateb chi'n cael nol, dylai'r sefydliad ymateb i chi yn uniongyrchol.
Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
Fel arfer, rydyn ni'n cadw copi o'ch cais mynediad am 14 diwrnod o'r dyddiad chi'n cyflwyno.
felrydyn ni'n defnyddio Twilio Sendgrid i gefnogi ein isadeiledd e-bost a'r gweithrediad o'r gwasanaeth yma, ni caiff samplau cynnwys ar hap ei gadw gan Twilio am fwy na 61 diwrnod.
Beth yw’ch hawliau chi?
Am rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau diogelu data'.
Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
Rydyn ni'n defnyddio Twilio Sendgrid i gefnogi ein isadeiledd e-bost a'r gweithrediad o'r gwasanaeth yma. Rydyn ni'n defnyddio rhaglen we trydydd-parti o Cloudflare er mwyn helpu cadw lan y diogelwch a pherfformiad o'n wefan. Rydyn ni'n rhedeg ein gwefan o fewn Microsoft Azure yn y DU. Gwelwch ymaYmwelwyr â’n gwefan a Sut gallwch gysylltu â niam rhagor o wybodaeth.