Neidio i’r prif gynnwys

Llofnodi’r addewid Mae’ch Data Chi’n Cyfrif

Cynnwys

Ar y tudalen hwn

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth brosesu’ch data personol yw eich cofrestru chi ar yr addewid.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Bydd arnon ni angen eich enw a'ch cyfeiriad ebost ac enw'ch sefydliad .

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn defnyddio'ch cyfeiriad ebost i anfon baner yr addewid atoch, a all gael ei ddefnyddio ar eich gwefan a'ch gwefannau yn y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn ni'n defnyddio'ch enw ac enw'ch sefydliad ar ein gwefan i hyrwyddo'ch ymrwymiad i arferion diogelu data da

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am ba mor hir rydyn ni'n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol mewn addewidion yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich cais, sy’n dibynnu ar pam rydyn ni’n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’ yn y rhestr ar y chwith o dan y pennawd ‘Gwybodaeth gyffredinol’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn