Neidio i’r prif gynnwys

Rhannu’ch gwybodaeth

Cynnwys

Efallai y byddwn ni’n rhannu’ch gwybodaeth bersonol ond dim ond pan fydd hyn yn deg ac yn gyfreithlon y byddwn yn gwneud hynny. Fyddwn ni ddim yn rhannu’ch gwybodaeth gydag unrhyw drydydd parti at ddibenion marchnata uniongyrchol.

Rydym yn defnyddio proseswyr data sy’n drydydd partïon sy’n darparu elfennau o wasanaethau ar ein rhan. Mae gennyn ni gontractau â’n proseswyr data. Mae hyn yn golygu na allan nhw wneud dim â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod ni wedi’u cyfarwyddo i wneud hynny. Wnân nhw ddim rhannu’ch gwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad heblaw amdanon ni. Byddant yn ei chadw’n ddiogel a hynny am y cyfnod y byddwn ni’n ei gyfarwyddo.

Mewn rhai amgylchiadau, mae'n ofynnol yn gyfreithiol inni rannu gwybodaeth. Er enghraifft, o dan orchymyn llys neu pan fyddwn yn cydweithio ag awdurdodau eraill i ymdrin â chwynion neu ymchwiliadau. Efallai y byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda chyrff rheoleiddio eraill er mwyn hybu eu hamcanion nhw, neu ein hamcanion ni. Mewn unrhyw sefyllfa, byddwn yn bodloni ein hunain bod gennym sail gyfreithlon dros rannu'r wybodaeth ac yn cofnodi’n penderfyniadau a’n bodloni ein hunain bod gennyn ni sail gyfreithlon dros rannu'r wybodaeth.

Pan fydd angen inni drosglwyddo'ch gwybodaeth bersonol y tu allan i'r Deyrnas Unedig, dim ond yn unol â GDPR y Deyrnas Unedig y mae hynny'n cael ei wneud.

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth os na fydd cosb ariannol sifil neu orchymyn Llys yn cael ei thalu. Os yw'r ddyled yn parhau i fod heb ei thalu ar ôl yr amserlen benodedig ar gyfer talu, nid oes cynllun talu ar waith neu os na lynir wrth gynllun talu y cytunwyd arno, efallai y byddwn yn cychwyn achos ffurfiol i adennill swm llawn y gosb ddi-dâl. O ganlyniad, bydd yr ICO yn rhannu data personol gyda'r arbenigwyr ymgyfreitha ac adfer y mae'n eu cyfarwyddo er mwyn iddynt nodi asedau a gweithredu adfer drwy'r llysoedd.

Yn rhinwedd ein swydd fel awdurdod cyhoeddus a rheolwr rydyn ni’n cael ceisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a GDPR y Deyrnas Unedig. Mae ceisiadau’n cael eu hystyried fesul achos a dim ond lle bo’n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny y byddwn ni’n datgelu’ch gwybodaeth.

A ninnau’n awdurdod cyhoeddus, rydyn ni’n cael ein harchwilio a gallwn rannu’ch gwybodaeth chi gydag archwilwyr. Bydd yr hyn a rannwn yn dibynnu ar natur a rhychwant yr archwiliad a byddwn yn cymryd camau i leihau faint o rannu data sy’n digwydd ble bynnag y bo modd.

Rydyn ni’n rhannu data personol gyda'r Archifau Gwladol. A ninnau’n awdurdod cyhoeddus, mae'n rhaid inni gydymffurfio â Deddf Cofnodion Cyhoeddus 1958. Mae'n ofynnol inni gadw a throsglwyddo cofnodion o arwyddocâd hanesyddol i’r Archifau Gwladol ar ôl 20 mlynedd yn unol â'u Polisi Casglu nhw. Mae'r rhestr lawn o gofnodion sydd o fewn y rhychwant i gael eu cadw’n barhaol i'w gweld yn adran 14 o'nAmserlen Cadw Gwybodaeth .