Ymateb i’n ceisiadau ymgynghori a’n harolygon
Gweld ein Ffeithlun 'yr hyn rydyn ni'n ei wneud â'ch data personol pan fyddwch chi...' i gael trosolwg sylfaenol ar yr wybodaeth isod.
Cynnwys
- Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
- Yr hyn a wnawn gydag ef
- Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
- Beth yw’ch hawliau chi?
- Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto
Os ydych chi wedi dweud y byddai gennych ddiddordeb mewn cyfrannu at ragor o waith gan yr ICO at bwnc yr ymgynghoriad hwn, byddwn yn prosesu’ch manylion cysylltu ac yn dod i gysylltiad â chi.
Byddwn yn prosesu'r farn neu'r safbwyntiau y byddwch yn eu rhoi yn yr ymatebion er mwyn bwydo’r gwaith o ddatblygu’n polisi, ein canllawiau neu’n gwaith rheoleiddio arall ym maes y cais am safbwyntiau.
Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.
Yr hyn a wnawn gydag ef
Efallai byddwn ni'n defnyddio eich manylion cyswllt i gysylltu gyda chi ac i drafod eich ymateb.
Yn achos ymgyngoriadau, byddwn ni'n cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.Byddwn ni hefyd yn cyhoeddiyr ymatebion eu hunain unless the respondent asks us not to. You can find out more about how we conduct consultations in our Polisi Ymgynghori.
Yn achos arolygon neu adborth, efallai y byddwn am gyhoeddi’ch enw a / neu eich swydd ochr yn ochr â'ch ymateb ar ein gwefan a’n cyfrifon yn y cyfryngau cymdeithasol. Pan fyddwn yn ystyried gwneud hyn byddwn yn egluro’r hyn rydyn ni’n bwriadu ei gyhoeddi a byddwn yn gofyn am eich cytundeb cyn gwneud hynny.
Rydym yn prosesu'r wybodaeth yn fewnol at y diben uchod. Nid ydym yn bwriadu rhannu’ch data personol gydag unrhyw drydydd parti. Bydd unrhyw geisiadau penodol oddi wrth drydydd parti inni rannu’ch data personol gyda nhw yn cael eu trin a’u trafod yn unol â’r darpariaethau yn y deddfau diogelu data.
Pa mor hir y byddwn yn ei chadw
Yn achos arolygon neu adborth, wbyddwn ni'n cadw gwybodaeth o'r ymatebion nes bod ein gwaith ar y pwnc wedi'i gwblhau.
Yn achos ymgyngoriadau, byddwn ni'n cadw gwybodaeth o'r ymatebion am dair blynedd ar ôl i'n gwaith ni ddod i ben, fel y disgrifir yn ein gwaithPolisi Ymgynghori.
Beth yw’ch hawliau chi?
Mae gennych chi hawl i ofyn am weld y data personol amdanoch sydd gennyn ni.
Mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu’ch data personol.
Os ydych yn anfodlon ar y modd yr ydyn ni wedi prosesu’ch data personol yna mae gennych chi hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio.
Os hoffech chi arfer unrhyw un neu ragor o'r hawliau hyn, cysylltwch â[email protected] neu ffoniwch ein Llinell Gymorth ar 0303 123 1113.
Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?
Rydyn ni’n defnyddio platfform Citizen Space Delib Limited i gynnal ymgyngoriadau.Gallwch ddarllen eu Polisi Preifatrwydd nhw yma.
Rydym ym aml yn defnyddio Snap Surveys i gasglu gwybodaeth ar ein rhan – bydd yn glir os ydyn ni’n defnyddio Snap Surveys. Mae unrhyw ddata sy’n cael ei gasglu gan Snap Surveys i’r ICO yn cael ei storio ar weinyddion yn y Deyrnas Unedig. Gallwch ddarllen eu Polisi Preifatrwydd yma..
Efallai byddwn ni hefyd yn creu a rhedeg arolygon trwy ddefnyddio Smart SurveyGallwch chi ffeindio eu polisi preifatrwydd yma.
Rydym hefyd yn defnyddio Ffurflenni Microsoft at yr un diben.
O bryd i'w gilydd rydym hefyd yn defnyddio'r swyddogaeth pleidleisio ar gyfrif LinkedIn yr ICO i ymgysylltu â defnyddwyr LinkedIn. Gallwch ddarllen eu hysbysiad preifatrwydd.
Rydym yn defnyddio PA Consulting a Yonder Data Solutions ar gyfer ymchwil ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.