Neidio i’r prif gynnwys

Gofyn am ein cyhoeddiadau

Cynnwys

View our 'what we do with your personal data when you...' infographic for a basic overview of the below information.

Cynnwys

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben wrth gasglu’r wybodaeth hon yw cael postio’r cyhoeddiadau y gofynnwyd amdanyn nhw atoch chi.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(a) o GDPR y Deyrnas Unedig.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Eich enw a manylion eich cyfeiriad.

Pam mae arnom ei angen

Er mwyn inni anfon y cyhoeddiadau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Dim ond i ddarparu’r gwasanaeth hwn yr ydyn ni’n defnyddio’r manylion cysylltu. Rydyn ni’n rhedeg adroddiadau ystadegol ar y mathau a’r niferoedd o gyhoeddiadau y gofynnir amdanyn nhw at ddibenion monitro, ond nid yw’r rhain yn cynnwys unrhyw wybodaeth a all gael ei hadnabod yn bersonol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

For information about how long we hold personal data, see our hamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn dibynnu ar eich cydsyniad er mwyn prosesu’r data personol y byddwch yn ei roi inni, er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn. Mae hyn yn golygu bod gennych hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd. Os gwnewch chi hynny, byddwn yn diweddaru’n cofnodion ar unwaith i gyd-fynd â’ch dymuniadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau chi fel unigolyn’ yn y rhestr ar y chwith o dan y pennawd ‘Gwybodaeth gyffredinol’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Ydyn – rydym yn defnyddio Granby i ymdrin â rhai ceisiadau am gyhoeddiadau, ond dim ond i anfon y cyhoeddiadau allan y caniateir i Granby ddefnyddio’r wybodaeth.