Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Ar y tudalen hwn

Addasu gwasanaethau

A ninnau’n awdurdod cyhoeddus ac yn ddarparwr gwasanaethau i’r cyhoedd, rydyn ni o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010).

Mae hyn yn golygu bod angen inni wneud addasiadau i wasanaethau ar gyfer unrhyw un sydd ag anabledd ac sy'n cysylltu â ni mewn unrhyw swyddogaeth, er mwyn dileu unrhyw rwystrau sy’n atal mynediad at ein gwasanaethau. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw erthygl 6(1)(c) o GDPR y Deyrnas Unedig gan fod gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu hyn. Bydd ein gwaith o brosesu data categori arbennig, fel gwybodaeth iechyd a roddwch i ni, yn cael ei seilio ar erthygl 9(2)(a), sy'n golygu bod arnon ni angen eich cydsyniad.

Byddwn yn creu cofnod o'ch gofynion addasu. Bydd y rhain yn rhoi eich enw, manylion cyswllt a'r math o addasiad sydd ei angen, ynghyd â disgrifiad byr o pam mae ei angen. Gall staff perthnasol gael gafael ar hyn i sicrhau eu bod yn cyfathrebu â chi yn y ffordd ofynnol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am hyn, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth.

Beth yw’ch hawliau chi?

Gan fod arnom angen eich cydsyniad i brosesu’ch data categori arbennig, mae gennych chi hawl i dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler ‘Eich hawliau fel unigolyn’.