Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diben y prosesu a’r sail gyfreithiol drosto

Ein diben ni wrth brosesu'r wybodaeth hon yw er mwyn inni asesu cais am achrediad fel corff monitro cod ac ymateb i chi.

Y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu’ch data personol yw erthygl 6(1)(e) o GDPR y Deyrnas Unedig, sy'n ein galluogi i brosesu data personol pan fo hynny'n angenrheidiol er mwyn cyflawni’n tasgau cyhoeddus yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr.

Yr hyn y bydd arnom ei angen

Mae arnon ni angen enw a manylion cysylltu prif bwynt cysylltu’ch sefydliad ac unrhyw gynrychiolwyr lle bo'n berthnasol. Mae arnon ni angen tystiolaeth gennych hefyd i ddangos bod eich sefydliad yn cydymffurfio â’r gofynion ynglŷn ag achredu, a allai gynnwys data personol.

Pam mae arnom ei angen

Rydym yn defnyddio'r data sy'n cael ei gasglu i asesu'ch cais, rhoi’r achrediad, a rhoi tystiolaeth o'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu.

Yr hyn a wnawn gydag ef

Byddwn yn cyhoeddi manylion achrediad eich sefydliad, ond fydd hyn ddim yn cynnwys data personol.

Pa mor hir y byddwn yn ei chadw

I gael gwybodaeth am pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol, gweler einhamserlen cadw gwybodaeth..

Beth yw’ch hawliau chi?

Rydym yn prosesu data personol ar gyfer cais y corff monitro yn rhinwedd ein swydd fel rheoleiddiwr, felly mae gennych chi hawl i wrthwynebu’n gwaith i brosesu'ch data personol. Mae yna resymau dilys pam y gallem wrthod eich gwrthwynebiad, sy'n dibynnu ar pam rydyn ni'n ei brosesu.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler 'Eich hawliau fel unigolyn’.

Ydyn ni’n defnyddio unrhyw broseswyr data?

Nac ydyn