Camau nesaf
-
Mae’r canllaw hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r gofynion newydd i gael proses gwynion diogelu data, fel y nodir yn y Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad). Er nad yw’r gofynion hyn yn dod i rym tan 19 Mehefin 2026, rydym o’r farn ei bod yn ddefnyddiol i gyhoeddi hyn nawr fel eich bod yn barod ar gyfer y newidiadau hyn. Hyd yn oed cyn i’r gofynion hyn ddod i rym, rydym o’r farn bod yr hyn a nodir yn y canllaw hwn yn cynrychioli arfer da.
Hoffem ddiolch i'r ymatebwyr am ymwneud â'n hymgynghoriad. Mae'r ymatebion a gawsom wedi bwydo datblygiad ein canllaw. Rydyn ni’n bwriadu adolygu'r canllawiau yma, ystyried sut i fonitro’u heffeithiolrwydd yn unol â'n fframwaith effaith ex-post a'u diweddaru lle bo'n briodol.