Am yr ymgynghoriad
-
Mae’r canllaw hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r gofynion newydd i gael proses gwynion diogelu data, fel y nodir yn y Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad). Er nad yw’r gofynion hyn yn dod i rym tan 19 Mehefin 2026, rydym o’r farn ei bod yn ddefnyddiol i gyhoeddi hyn nawr fel eich bod yn barod ar gyfer y newidiadau hyn. Hyd yn oed cyn i’r gofynion hyn ddod i rym, rydym o’r farn bod yr hyn a nodir yn y canllaw hwn yn cynrychioli arfer da.
Am yr ymgynghoriad
Parhaodd yr ymgynghoriad cyhoeddus tan 19 Hydref 2025. Cawsom 86 o ymatebion i gyd. Roedd hyn yn cynnwys 74 o ymatebion ar ein llwyfan ymgynghori a 12 ymateb ebost. Rhoddodd tri o'r 12 ymateb ebost atebion i'r cwestiynau yn yr ymgynghoriad ac felly maen nhw wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad rhifiadol yn yr adroddiad yma. Mae'r naw ymateb ebost arall wedi'u hystyried yn y dadansoddiad ansoddol yn unig.
Cawsom gymysgedd o ymatebion fel y nodir isod:
- • Sector cyhoeddus: 28 o ymatebion (33%)
- • Sector preifat: 30 o ymatebion (35%)
- • Elusen neu nid er elw: 19 o ymatebion (22%)
- • Unigolyn yn gweithredu mewn swydd breifat (e.e. rhywun sy'n rhoi ei farn fel aelod o'r cyhoedd): 5 ymateb (6%)
- • Arall: 4 ymateb (5%)
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i gynnig sylwadau a rhannu eu barn.
Ar y cyfan, cadarnhaol oedd yr adborth. Croesawodd ymatebwyr y canllawiau drafft gan ddweud bod yr adrannau wedi'u hegluro'n glir ac wedi'u gosod yn dda. Ar ôl darllen y canllawiau drafft, dywedodd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr eu bod naill ai'n deall, neu'n rhannol ddeall, eu rhwymedigaethau.
Wrth ddadansoddi'r ymatebion yma, rydyn ni wedi nodi sawl thema allweddol. Rydyn ni wedi crynhoi'r rhain yma.