Ymgynghoriad ar ganllawiau drafft ar gwynion ar gyfer sefydliadau – crynodeb o'r ymatebion
-
Mae’r canllaw hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r gofynion newydd i gael proses gwynion diogelu data, fel y nodir yn y Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad). Er nad yw’r gofynion hyn yn dod i rym tan 19 Mehefin 2026, rydym o’r farn ei bod yn ddefnyddiol i gyhoeddi hyn nawr fel eich bod yn barod ar gyfer y newidiadau hyn. Hyd yn oed cyn i’r gofynion hyn ddod i rym, rydym o’r farn bod yr hyn a nodir yn y canllaw hwn yn cynrychioli arfer da.
Cyflwyniad
Ym mis Awst 2025 lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn am sylwadau ar ein canllawiau drafft ar gwynion ar gyfer sefydliadau..
Nod yr ymgynghoriad oedd tywys sefydliadau drwy ofynion newydd Deddf Diogelu Data 2018, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad) 2025 (Deddf 2025 ). Maer canllawiau’n hysbysu sefydliadau o'r hyn y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, yr hyn y dylen nhw ei wneud a’r hyn y maen nhw’n cael ei wneud er mwyn cydymffurfio, ac yn cynnwys cyngor ar gyfer pob cam yn y broses.
Mae'r tudalen yma yn crynhoi'r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.