Camau nesaf
Byddwn ni’n rhoi’r fframwaith diwygiedig ar waith i wella’r ffordd rydyn ni’n ymdrin â chwynion diogelu data ac i ganolbwyntio’n hadnoddau ar yr achosion lle gallwn gael yr effaith fwyaf.
Bydd y cam cyntaf yn canolbwyntio ar ymgorffori’r dull brysbennu newydd. Mae newidiadau pellach, megis ffyrdd newydd o ddefnyddio’r wybodaeth o gwynion i helpu i lywio’n gwaith rheoleiddio ehangach, i fod i ddigwydd yn ystod y misoedd nesaf.
Wrth inni symud ymlaen, byddwn ni’n parhau i adolygu a mireinio’n dull gweithredu, gan dynnu ar adborth gan achwynwyr a sefydliadau a’n gwaith achosion ein hunain. Bydd y raddfa niwed a’r canllawiau ategol yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn glir, yn berthnasol ac yn effeithiol.
Ein huchelgais yw cyflawni canlyniadau gwell i’r cyhoedd yn gynt a chodi safonau diogelu data ymhlith sefydliadau. Bydd sefydliadau hefyd yn elwa o lai o ymgysylltu rhigolaidd ar achosion risg is, gan eu galluogi i ganolbwyntio ar y pryderon mwyaf arwyddocaol. Ein nod yw nid yn unig rheoli’r galw ond codi safonau o ran profiad cwsmeriaid ac effeithiolrwydd rheoleiddio. Trwy gyflwyno’r dull yma, rydyn ni’n anelu at ddarparu gwasanaeth rheoleiddio mwy ymatebol ac effeithiol.
Bydd y fframwaith newydd yn chwarae rhan ganolog yn y ffordd rydyn ni’n asesu ac yn blaenoriaethu cwynion, gan sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n hadnoddau i gefnogi pobl sydd wedi profi niwed yn well. Trwy gryfhau’n prosesau, rydyn ni’n anelu at hybu tegwch, tryloywder ac atebolrwydd wrth ymdrin â chwynion diogelu data.
Byddwn ni’n cyhoeddi canllawiau ac adnoddau ychwanegol ar ein gwefan wrth iddyn nhw ddod ar gael.