Neidio i’r prif gynnwys

Y cyd-destun a’r ymatebion a ddaeth i law

Cynnwys

Ar 22 Awst 2025, lansiwyd ymgynghoriad ar ein newidiadau arfaethedig i’n dull o ymdrin â chwynion diogelu data. Parhaodd y cyfnod ymgynghori tan 31 Hydref 2025. Roedd y fframwaith a’r raddfa niwed y byddwn ni’n eu defnyddio i’n helpu i asesu cwynion a’r asesiad effaith yn rhan o’r ymgynghoriad.

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i roi sylwadau a rhannu eu barn.

Cawsom gyfanswm o 81 o ymatebion – 74 trwy’n llwyfan ymgynghori ar-lein ac saith trwy’r ebost. O’r 74 a ddefnyddiodd ein hymgynghoriad ar-lein:

  • Atebodd un ymatebydd (1%) fel academydd;
  • Atebodd 33 o ymatebwyr (45%) fel unigolyn;
  • Ymatebodd 33 o ymatebwyr (45%) ar ran sefydliad; a
  • Dewisodd saith ymatebydd (9%) ‘arall’.
Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO. 74 ymatebydd.

Roedd yna 24 o gwestiynau. Roedd rhai’n ymwneud â’n dull arfaethedig, ac eraill yn anelu at asesu effaith y dull hwnnw.

Roedd yr ymatebion a gawsom yn adeiladol iawn ac maen nhw wedi helpu i lunio’n dull newydd. Rydyn ni wedi crynhoi rhai o’r themâu pwysig a godwyd ac wedi cyflwyno sylwadau arnyn nhw.