Neidio i’r prif gynnwys

Effaith ein dull arfaethedig

Cynnwys

Mae’r asesiad effaith drafft o’r dull arfaethedig yn nodi amlinelliad cychwynnol o’r costau a’r buddion posibl i wahanol grwpiau yr effeithir arnyn nhw.

Fel rhan o’r ymgynghoriad, gofynnwyd am adborth ar yr asesiad effaith yn ogystal ag unrhyw fewnwelediadau ehangach y gallai’r ymatebwyr eu darparu ar effeithiau.

Yn fwy manwl

Mae’r adran yma yn cyflwyno’r canfyddiadau hyn, sydd wedi’u rhannu fel hyn:

Y grwpiau yr effeithir arnyn nhw

Nododd yr asesiad o’r effaith grwpiau sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y dull gweithredu, sef:

  • aelodau o’r cyhoedd sy’n codi cwynion diogelu data gyda ni;
  • sefydliadau;
  • ni; a hefyd
  • y cyhoedd yn gyffredinol neu gymdeithas ehangach y Deyrnas Unedig.

Gofynnwyd i’r ymatebwyr ddweud a oedden nhw’n cytuno â’r grwpiau hyn yn adran 5.4 o'r asesiad effaith.

Roedd y mwyafrif o’r ymatebwyr (64%, 47 o ymatebwyr) naill ai’n cytuno’n gryf neu’n cytuno â’r rhestr yma o grwpiau yr effeithir arnyn nhw (11% yn cytuno'n gryf, 53% yn cytuno). Roedd chwarter (24%, 18 ymatebydd) naill ai’n anghytuno’n gryf neu’n anghytuno (12% yn anghytuno'n gryf, 12% yn anghytuno), ac roedd y naw ymatebydd arall (12%) yn ansicr. 1

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO, 74 o ymatebwyr.

Grwpiau ychwanegol yr effeithir arnyn nhw

Gofynnwyd i’r ymatebwyr nodi unrhyw grwpiau eraill a fyddai’n cael eu heffeithio gan y dull ac oedd heb eu cynnwys yn ein hasesiad effaith drafft, ac ymatebodd 30 (41%). Crynhoir eu hymatebion isod.

Tabl 1: Grwpiau ychwanegol yr effeithir arnyn nhw

Y grwpiau yr effeithir arnyn nhw Disgrifiad
Llysoedd, tribiwnlysoedd a’r proffesiwn cyfreithiol (10 ymatebydd) Gall llwyth achosion llysoedd a thribiwnlysoedd, a’r galw am weithwyr proffesiynol cyfreithiol, gynyddu am fod pobl yn dewis ymgyfreitha preifat os nad ydyn ni’n gweithredu ar eu cwyn, yn ogystal â cheisiadau adran 166 i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a cheisiadau am ganiatâd i ddwyn hawliadau am adolygiad barnwrol yn erbyn y Comisiynydd.
Sefydliadau cyfraith ac eiriolaeth (wyth ymatebydd) Byddai angen i sefydliadau neu bobl sy’n helpu pobl i lywio drwy’r broses gwyno sicrhau bod eu prosesau’n ddigonol ac yn cyd-fynd â’r dull gweithredu.
“Unigolion agored i niwed” fel pobl ag anableddau, pobl oedrannus neu bobl sy’n wynebu rhwystr iaith (saith ymatebydd) Efallai nad oes gan bobl yn y grŵp yma y lefel o ddealltwriaeth neu’r sgiliau llythrennedd digidol sydd eu hangen i fynegi’r niwed maen nhw wedi’i brofi. Gallai hyn arwain at fethu â gweld cwynion yn cyrraedd y trothwy2 i’w hystyried ymhellach.
Cynrychiolwyr etholedig, gan gynnwys aelodau seneddol a chynghorwyr (pedwar ymatebydd) Efallai y bydd cynrychiolwyr etholedig yn wynebu mwy o bwysau gan y bobl maen nhw’n eu cynrychioli i ymgymryd ag achosion o gwynion heb eu datrys.
Newyddiaduraeth a sefydliadau’r cyfryngau (pedwar ymatebydd) Efallai y bydd newyddiadurwyr sy’n defnyddio cwynion diogelu data i geisio cynyddu tryloywder yn gweld eu gallu i wneud hynny yn cael ei gyfyngu lle bernir bod cwynion yn isel eu risg.
Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO.

Ymateb yr ICO

Rydyn ni wedi ystyried y safbwyntiau a fynegwyd gan ymatebwyr ynghylch y grwpiau yr effeithir arnyn nhw a nodwyd yn ein hasesiad effaith. Er bod y mwyafrif o’r ymatebwyr yn cytuno â’r grwpiau yr effeithir arnyn nhw, cawsom nifer o awgrymiadau ychwanegol, a nodir isod.

Llysoedd, tribiwnlysoedd a’r proffesiwn cyfreithiol

Dydyn ni ddim yn rhag-weld y bydd y dull newydd yn arwain at gynnydd mewn ymgyfreitha preifat. Er hynny, fe allai arwain at gynnydd mewn ceisiadau adran 166 i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf a cheisiadau am ganiatâd i ddwyn hawliadau am adolygiad barnwrol yn erbyn y Comisiynydd. O dan y dull newydd, bydd yr ICO yn dal i gymryd camau priodol i ymateb i gwynion a hysbysu achwynwyr o’r canlyniad. Dydyn ni ddim yn credu ei bod yn debygol y bydd nifer arwyddocaol o gwynion sy’n haeddu sylw rheoleiddiol yn mynd heb sylw. Pan fydd camgymeriadau’n digwydd, bydd ein proses adolygu achosion yn galluogi’r achwynwyr i herio’n penderfyniadau. Gan hynny, rydyn ni o’r farn bod effeithiau ar y grŵp yma wedi’u hystyried yn ddigonol fel is-set o ‘sefydliadau’ fel y’u nodwyd yn yr asesiad effaith.

Sefydliadau cyfraith ac eiriolaeth

Rydyn ni’n credu y bydd y dull diwygiedig yn gwella sicrwydd rheoleiddiol ac yn grymuso unigolion a sefydliadau i ddatrys cwynion yn annibynnol. Bydd y budd yma yn cynnwys sefydliadau cyfraith ac eiriolaeth, gan eu helpu i ddarparu cymorth effeithiol i unigolion. Gan hynny, rydyn ni o’r farn bod effeithiau ar y grŵp yma wedi’u hystyried yn ddigonol fel is-set o ‘sefydliadau’ fel y’u nodwyd yn yr asesiad effaith.

Unigolion “agored i niwed”

Mewn ymateb i adborth yn yr ymgynghoriad, rydyn ni wedi ymrwymo i wella tryloywder ac eglurder yn ein dull newydd. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud y broses yn fwy hygyrch a dealladwy i bob unigolyn, gan gynnwys y rhai a allai fod yn agored i niwed. Gan hynny, rydyn ni o’r farn bod y grŵp yma yn is-set o ‘aelodau o’r cyhoedd sy’n codi cwynion diogelu data gyda’r ICO’ fel y’i nodwyd yn yr asesiad effaith.

Cynrychiolwyr etholedig

O dan y dull newydd, byddwn ni’n blaenoriaethu cwynion difrifol, gan sicrhau eu bod yn cael eu profi a’u hystyried yn gynt. Bydd hyn yn lleihau’r angen i uwchgyfeirio cwynion at gynrychiolwyr etholedig, gan y bydd achwynwyr sydd â phryderon arwyddocaol yn cael ateb cyflymach. Gan hynny, rydyn ni o’r farn bod effeithiau ar y grŵp yma wedi’u hystyried yn ddigonol fel is-set o ‘sefydliadau’ fel y’u nodwyd yn yr asesiad effaith.

Newyddiaduraeth a sefydliadau’r cyfryngau

O dan y dull diwygiedig, bydd cwynion risg isel yn cael eu dadflaenoriaethu er mwyn inni ymdrin â materion risg uchel yn fwy effeithiol. Pan fydd cwyn risg isel yn datblygu’n fater mwy difrifol, mae’r fframwaith yn darparu hyblygrwydd, gan sicrhau ymateb rheoleiddiol priodol. Rydyn ni’n credu y bydd unrhyw gostau i newyddiaduraeth neu sefydliadau’r cyfryngau trwy ddadflaenoriaethu cwynion risg isel yn cael eu gorbwyso gan y manteision i’r gymdeithas ehangach yn sgil ein ffocws ar achosion risg uchel. Gan hynny, rydyn ni o’r farn bod effeithiau ar y grŵp yma wedi’u hystyried yn ddigonol fel is-set o ‘sefydliadau’ fel y’u nodwyd yn yr asesiad effaith.

Costau a buddion a amlinellir yn yr asesiad effaith

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw’n cytuno â’r costau a’r buddion a amlinellwyd yn yr asesiad effaith. Cymysg oedd y farn, gyda rhyw draean (35%, 26 ymatebydd) yn cytuno’n gryf neu’n cytuno (4% yn cytuno’n gryf, 31% yn cytuno). Mae ychydig o dan hanner (46%, 34 ymatebydd) yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno, a’r gweddill (19%, 14 ymatebydd) yn ansicr (gweler isod). 3

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO, 74 o ymatebwyr.

Ymhlith yr ymatebwyr oedd yn anghytuno’n gryf neu’n anghytuno â’n dull gweithredu, y rhesymau mwyaf cyffredin oedd bod yr asesiad effaith:

  • yn tanseilio’r effaith y byddai’r dull yn ei chael ar gydymffurfiaeth sefydliadau (pum ymatebydd);
  • yn ceisio cyfiawnhau’r ffaith ein bod ni’n osgoi’n cyfrifoldebau statudol (chwe ymatebydd); ac
  • yn methu ystyried y costau a fyddai’n cael eu talu gan sefydliadau a’r system gyfiawnder o ganlyniad i’r dull (pum ymatebydd).

Costau a buddion pellach i’w hystyried

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd unrhyw fuddion, costau, neu’r ddau, yr oedden nhw’n credu y dylid eu hystyried. Mae’r adran yma yn crynhoi’r ymatebion hyn.

Buddion pellach

Rydyn ni’n disgrifio buddion pellach a nodwyd gan ymatebwyr isod.

Tabl 2: Buddion ychwanegol

Buddion a nodwyd Disgrifiad
Buddion enw da i ni (tri ymatebydd) Byddai mwy o dryloywder yn ein proses benderfynu ar gyfer ymdrin â chwynion diogelu data yn arwain at well hyder cyhoeddus ynon ni.
Arbedion amser i sefydliadau (un ymatebydd) Bydd y dull newydd yn darparu eglurder i sefydliadau, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau cyson ac arbed amser.
Effeithiau ataliol y drefn orfodi ar ymddygiad sefydliadol (un ymatebydd) Os ydyn ni’n delio’n fwy effeithlon ag achosion risg uchel, mae sefydliadau’n debycach o gydymffurfio â’r gyfraith diogelu data, er mwyn lleihau risg ariannol neu risg i’w henw da.
Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO.

Costau pellach

Rydyn ni’n disgrifio costau pellach a nodwyd gan ymatebwyr isod.

Tabl 3: Costau ychwanegol

Costau a nodwyd Disgrifiad
Gall methu ymchwilio i gwynion arwain at fwy o beidio â chydymffurfio, niwed neu’r ddau, gan effeithio’n negyddol ar y gymdeithas ehangach (12 ymatebydd) Gall sefydliadau fanteisio ar lai o orfodaeth diogelu data i roi llai o flaenoriaeth i gydymffurfio â’r gofynion diogelu data.Pan fyddwn ni’n methu gweithredu’n gynnar i fynd i’r afael â niwed a nodwyd, gall y niwed yma fynd yn fwy difrifol a chostus i ni, sefydliadau neu’r gymdeithas ehangach.
Mwy o faich ar sefydliadau cyfreithiol (gwasanaethau cyfreithiol, llysoedd a thribiwnlysoedd), mwy o gostau i bobl (10 ymatebydd) Os nad ydyn ni’n cymryd camau pellach ynglŷn â chŵyn rhywun, efallai y byddan nhw’n troi at ymgyfreitha preifat. Mae hyn yn gostus i’r person a’r sefydliadau yma a gall gynyddu’r pwysau ar lysoedd a thribiwnlysoedd.
Gall methu ymchwilio i gwynion arwain at lai o hyder cyhoeddus ynon ni (wyth ymatebydd) Efallai na fydd pobl yn gweld y budd mewn cwyno am ddiogelu data yn y dyfodol os ydyn nhw’n cael eu storio “er gwybodaeth yn unig”.
Mae sefydliadau’n wynebu costau i ddeall y dull newydd a chostau i ymdrin â mwy o gwynion (chwe ymatebydd) Byddai sefydliadau’n wynebu costau untro i ddeall a diweddaru prosesau a gweithdrefnau ynghylch cwynion diogelu data.Efallai y byddan nhw hefyd yn gweld cynnydd yn y costau i ymdrin â chwynion diogelu data wrth i fwy o gwynion gael eu gwneud yn uniongyrchol iddyn nhw.
Costau anariannol i bobl (tri ymatebydd) Gall mynd ar ôl achosion olygu bod angen gohebu dro ar ôl tro a gwybodaeth gyfreithiol, sy’n costio amser i’r unigolyn sy’n cwyno. Gall mynd ar ôl cwynion hefyd arwain at drallod emosiynol i’r unigolyn yma.
Effaith negyddol ar hawliau “unigolion sy’n agored i niwed” a’u heiriolwyr (dau ymatebydd) Efallai y bydd plant, a phobl â llythrennedd digidol isel neu ddiffyg gwybodaeth am y gyfraith diogelu data, yn cael trafferth llywio drwy’r prosesau newydd. Gall hyn gyfyngu ar eu gallu i arfer eu hawliau diogelu data ac arwain at straen emosiynol. Gallai eiriolwyr, megis perthnasau agosaf, brofi straen ychwanegol yn helpu pobl sy’n “agored i niwed” i lywio drwy’r dull newydd.
Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO.

Costau a buddion i’r ymatebwyr

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedden nhw’n credu y bydd y dull arfaethedig yn arwain at unrhyw gostau neu fuddion ychwanegol iddyn nhw neu i’w sefydliadau.

Roedd ychydig o dan draean o’r ymatebwyr (30%, 22 o ymatebwyr) yn disgwyl costau ychwanegol, roedd 14% (10 ymatebydd) yn disgwyl buddion ychwanegol, a 23% (17 ymatebydd) yn disgwyl y ddau. Doedd rhyw un rhan o bump (19%, 14 o ymatebwyr) ddim yn disgwyl unrhyw gostau na buddion ychwanegol, a doedd y gweddill (14%, 11 ymatebydd) ddim yn gwybod neu’n ansicr (gweler isod). 4

Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO, 74 o ymatebwyr.

Buddion

Roedd y buddion i bobl neu eu sefydliadau a nododd yr ymatebwyr yn cynnwys:

  • “sgil-fuddion” i sefydliadau’r sector cyhoeddus lle rydyn ni’n cyhoeddi argymhellion yn dilyn ymchwiliadau;
  • mwy o eglurder ynghylch ein proses ymdrin â chwynion, gan arwain at well dealltwriaeth o’n penderfyniadau;
  • mwy o atebolrwydd cyhoeddus mewn sefydliadau mawr lle rydyn ni’n defnyddio data cwynion i nodi tueddiadau; a
  • chreu cyfleoedd ymgynghori newydd posibl sy’n ein helpu ni neu sefydliadau wrth frysbennu cwynion risg isel.
  • chreu cyfleoedd ymgynghori newydd posibl sy’n ein helpu ni neu sefydliadau wrth frysbennu cwynion risg isel.

Costau

Roedd y costau i bobl a nododd yr ymatebwyr yn cynnwys:

  • colli hyder y byddai eu cwynion yn arwain at gamau rheoleiddio; a
  • sefydliadau yn manteisio ar eu gwybodaeth am y dull er mwyn bychanu dilysrwydd cwynion pobl.

Roedd y costau i sefydliadau a nododd yr ymatebwyr yn cynnwys:

  • y costau sy’n gysylltiedig â deall y dull newydd;
  • yr angen i gynnal mwy o adolygiadau mewnol o gwynion; a hefyd
  • y risg i enw da sefydliadau lle mae achwynwyr yn troi fwyfwy at ymgyfreitha i gael sylw i gwynion.

Ymateb yr ICO

Rydyn ni wedi ystyried y safbwyntiau a fynegwyd gan yr ymatebwyr ynghylch costau a buddion posibl y dull arfaethedig. Nodwn fod bron hanner yr ymatebion yn anghytuno â’n hasesiad effaith a bod rhyw ddwy ran o dair yn awgrymu costau neu fuddion. Rydyn ni wedi grwpio’n hymatebion fesul thema isod.

Cydymffurfiaeth a hyder y cyhoedd

Dydyn ni ddim yn derbyn y farn y bydd y dull newydd yn arwain at ddiffyg cydymffurfio neu niwed eang. Fel y disgrifir yn yr asesiad effaith, rydyn ni’n credu y byddwn ni’n gallu dyrannu adnoddau’n fwy effeithiol ac effeithlon, gan ganolbwyntio ar y materion mwyaf arwyddocaol a darparu canlyniadau mwy amserol. Bydd blaenoriaethu fel hyn yn cryfhau sicrwydd rheoleiddiol ac yn cymell sefydliadau i gydymffurfio â’r gyfraith, gan leihau risg ariannol a risg i’w henw da. At hynny, rydyn ni’n credu y bydd delio ag achosion risg uchel yn fwy effeithlon yn arwain at leihau niwed diogelu data a’r costau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio.

Costau a buddion i sefydliadau

Rydyn ni’n cydnabod y bydd sefydliadau’n wynebu costau ymgyfarwyddo wrth ddeall y dull newydd, a bydd y rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y dadansoddiad cost-budd. Er hynny, mae’r costau hyn yn debygol o gael eu gwrthbwyso gan fuddion mwy o sicrwydd rheoleiddiol a’r gallu i ddatrys cwynion yn fewnol. Dim ond pan nad yw sefydliad yn cydymffurfio y bydd angen adolygiadau mewnol ychwanegol yn y dull newydd. Mewn achosion o’r fath, mae adolygiadau mewnol yn debygol o leihau amlygiad i gamau rheoleiddiol neu gyfreithiol, sy’n gyfystyr â mesur arbed costau.

Dydyn ni ddim yn rhag-weld cynnydd mewn ymgyfreitha yn achos sefydliadau sy’n cydymffurfio. I’r gwrthwyneb, trwy ein galluogi i weithredu’n gynt mewn achosion o niwed difrifol, fe ddylai’r dull leihau risgiau ac annog sefydliadau i gymryd camau cywiro amserol.

Rydyn ni’n nodi bod y buddion ychwanegol i sefydliadau, sef eglurder, sicrwydd rheoleiddiol a phrydlondeb, eisoes wedi’u hadlewyrchu yn ein hasesiad effaith drafft.

Costau i unigolion

Rydyn ni’n cydnabod y gall rhai pobl fod yn anfodlon ar y dull newydd, fel y nodwyd yn yr asesiad effaith gwreiddiol. Rydyn ni’n credu bod yr asesiad yn ymdrin yn ddigonol â’r costau anariannol a nodwyd gan ymatebwyr. I liniaru’r pryderon hyn, rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y broses gwyno yn dal yn dryloyw ac yn hawdd ei ddefnyddio. Bydd y gwelliannau yma yn gwneud y broses yn gliriach ac yn fwy hygyrch i bob achwynydd.

Baich ar wasanaethau cyfreithiol

Codwyd pryderon am gynnydd posibl yn y baich ar sefydliadau cyfreithiol, llysoedd a thribiwnlysoedd, yn ogystal â chostau cynyddol i unigolion. Cafodd y pwyntiau hyn eu cydnabod yn ein hasesiad o’r costau i’r cyhoedd sy’n codi cwynion diogelu data gyda ni.

Er hynny, dydyn ni ddim yn rhag-weld y bydd y dull newydd yn arwain at gynnydd sylweddol mewn ymgyfreitha preifat. Trwy flaenoriaethu cwynion difrifol a’u datrys yn fwy effeithiol, fe ddylai’r dull newydd leihau nifer yr achosion sy’n cael eu huwchgyfeirio a’r costau cyfreithiol cysylltiedig.

Tystiolaeth bellach

Gofynnwyd i’r ymatebwyr a oedd ganddyn nhw unrhyw argymhellion a thystiolaeth bellach y dylid eu hystyried. Rydyn ni wedi crynhoi eu hargymhellion methodolegol yn Nhabl 4 a’u tystiolaeth bellach yn Nhabl 5.

Tabl 4: Argymhellion methodolegol yr ymatebwyr

Argymhelliad Disgrifiad
Modelu senarios Mae’r dull yma yn efelychu canlyniadau o dan wahanol lwybrau gorfodi neu beidio â gorfodi.
Prisio drwy ddirprwy Mae hyn yn cynnwys aseinio gwerthoedd ariannol i niwed anniriaethol (e.e. erydiad ymddiriedaeth, camddefnyddio data) gan ddefnyddio analogau marchnad neu gynseiliau hanesyddol.
Fframweithiau costau diffyg gweithredu Mae’r rhain yn gyffredin mewn polisi amgylcheddol ac iechyd cyhoeddus, ac yn amcangyfrif baich economaidd diffyg gweithredu rheoleiddiol.
Economeg ymddygiadol Mae’r dull yma yn disgrifio effeithiau dilynol cyfreithlondeb tybiedig neu ataliad tybiedig ar ymddygiad cydymffurfio. Mae’r ymchwil yn dangos mai’r sicrwydd y cymerir camau gorfodi, nid difrifoldeb y camau, sy’n pennu a fydd rhywun yn cydymffurfio. Trwy gyhoeddi na fydd yna ymchwiliad i gwynion risg isel, efallai y bydd cynnydd mewn troseddau.
Modelau gan reoleiddwyr eraill y Deyrnas Unedig Argymhellodd ymatebwyr y dylid ymchwilio i fodelau a fabwysiadwyd gan reoleiddwyr eraill yn y Deyrnas Unedig sy’n delio â niferoedd uchel o gwynion – er enghraifft, FOS neu’r Swyddfa Cyfathrebu (Ofcom).
Cymariaethau rhyngwladol Mae DPAs eraill yn Ewrop yn trin niferoedd tebyg neu uwch o gwynion. Dylai’r ICO ddarparu tystiolaeth gymharol i esbonio’i dull newydd o ymdrin â chwynion diogelu data.
Asesiad o’r effaith ar hawliau plant Argymhellodd un ymatebydd y dylid cynnal asesiad o’r effaith ar hawliau plant er mwyn datgelu effaith y newidiadau ar blant. 5
Gwerthusiad ex-post Argymhellodd un ymatebydd werthusiad annibynnol ar ôl deuddeg mis i fesur a yw’r dull arfaethedig yn cyflawni’r effeithlonrwydd a ragwelir heb gyfaddawdu mynediad, tegwch neu atebolrwydd.
Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO.

Tabl 5: Crynodeb o’r dystiolaeth bellach a ddarparwyd gan ymatebwyr

Argymhelliad Disgrifiad
Effaith economaidd

Mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygu Economaidd ar reoleiddio data yn datgelu effeithiau gorfodi rheoleiddiol ar GDP byd-eang.6 Mae ymchwil ar wasanaethau ariannol yn dangos bod toriadau data yn costio £2.48 biliwn i fusnesau yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn.

Gwerth ataliol gorfodi Mae canllawiau’r ICO ar ddirwyon yn dweud bod rhaid i ddirwyon fod yn “effeithiol, yn gymesur ac yn ataliol” er mwyn hybu cydymffurfiaeth.7 Mae dadansoddiad gan ComplyDog o orfodi’r GDPR yn dangos bod cosbau gweladwy (hyd at 4% o’r trosiant byd-eang) yn cael effaith ataliol amlwg ar draws sectorau. 8
Ymddiriedaeth y cyhoedd a dilysrwydd democrataidd Mae canllawiau’r ICO ar gwynion yn pwysleisio bod trin cwynion mewn modd tryloyw yn adeiladu ymddiriedaeth ac atebolrwydd.9Dylid ystyried ymchwil y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar fynediad at gyfiawnder.
Baich ar yr achwynydd a’r gost gyfle Mae canllaw Sprintlaw i gwynion i’r ICO yn amlinellu’r dreth emosiynol a gweithdrefnol ar unigolion sy’n llywio drwy’r broses datrys cwynion.10 Mae fframwaith cymesuredd Ombwdsmon Llywodraeth Leol a Gofal Cymdeithasol yn pwysleisio’r angen i bwyso a mesur yr effaith ar yr achwynwyr wrth ddyrannu adnoddau ymchwilio. 11
Meincnodi cymharol Llofnododd yr ICO a Bundesbeauftragte für den Datenschutz und die Informationsfreiheit (y Comisiynydd Ffederal dros Ddiogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth) femorandwm cyd-ddealltwriaeth i rannu data ymchwiliadau a mynd ar drywydd gorfodi ar y cyd.12 Mae dadansoddiad cymharol Pinsent Masons yn dangos bod gan y Commission Nationale de l’Informatique et des Libertés safbwynt mwy ymosodol ar orfodi, gan gynnwys sancsiynau cyhoeddus a phwerau brys. 13
Astudiaethau achos Mae adolygiad mewnol Severn Trent Water (STW) (EIR840) yn dangos sut mae sefydliadau’n gwyro atebolrwydd trwy roi’r cyfrifoldeb yn nwylo contractwyr allanol, gan adael achwynwyr heb fynediad at wybodaeth amgylcheddol neu wybodaeth diogelu data. Rhaid i fframwaith yr ICO fynd i’r afael yn benodol â’r bwlch yma.Mae achos CPC Civils yn dangos sut y gall contractwyr nid yn unig wrthod ceisiadau am weld gwybodaeth (SARs) ond hefyd ddychryn achwynwyr gyda bygythiadau o gamau cyfreithiol. Mae hyn yn creu effaith iasol sy’n atal unigolion rhag arfer eu hawliau gwybodaeth. Mae contractwyr fel CPC Civils a chyfleustodau fel STW wedi’i gwneud yn ofynnol i unigolion gyflwyno gormod o ddata personol (e.e. lluniau, ID llun, biliau cyfleustodau) dan yr esgus o wirio’u hunaniaeth ar gyfer SARs.Mewn un achos, rhannwyd rhif GIG yn amhriodol rhwng awdurdod lleol a chymdeithas dai. Cyfaddefodd y gymdeithas dai brosesu anghyfreithlon (Medi 2025), tra bod yr awdurdod lleol wedi gwrthod yr un gŵyn (Awst 2025). O dan y fframwaith newydd, gallai canlyniadau cyferbyniol o’r fath olygu na cheid ymchwiliad priodol ar y naill na’r llall.
Elusennau/grwpiau eiriolaeth Mae ymchwil gan elusennau sy’n gweithio gyda phobl ag anableddau, gofalwyr, goroeswyr camdriniaeth ddomestig a phobl sy’n niwroamrywiol yn dangos y niwed systemig sy’n cael ei achosi gan faterion data sydd heb eu datrys.
Ffynhonnell: Dadansoddiad yr ICO.

Ymateb yr ICO

Argymhellion methodolegol

O gofio’r data sydd ar gael, rydyn ni’n credu ein bod ni wedi cynnal dadansoddiad o effeithiau posibl sy’n gymesur â’r penderfyniad dan sylw. Mae’n hasesiad yn adlewyrchu’r dystiolaeth orau sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn cydbwyso’r angen am drylwyredd a chymesuredd. Yn unol â’n fframwaith, byddwn ni’n ystyried dull priodol o asesu effaith ex-post y dull gweithredu. Pan fydd tystiolaeth ar gael ac y bernir ei bod yn gymesur gwneud hynny, bydd yr adolygiad yma yn ystyried dadansoddiad dosbarthiadol o’r effaith ar grwpiau penodol, yn asesu effeithiau dilynol ar gydymffurfiaeth ac yn gwerthuso dylanwad y dull ar niweidiau diogelu data.

Tystiolaeth bellach

Rydyn ni’n cydnabod y costau sy’n gysylltiedig â pheidio â chydymffurfio â’r gyfraith diogelu data fel y nododd yr ymatebwyr. Er hynny, rydyn ni’n credu y bydd ein dull diwygiedig yn ein galluogi i fynd i’r afael â’r achosion mwyaf difrifol yn fwy effeithiol, a thrwy hynny gynnal y gyfraith diogelu data a lliniaru’r niwed cymdeithasol ac economaidd sy’n gysylltiedig â diffyg cydymffurfio. Trwy ganolbwyntio adnoddau ar faterion risg uchel, bydd y dull newydd yn cryfhau cydymffurfiaeth ac yn lleihau niwed. Rydyn ni o’r farn y bydd y dull yn helpu i adeiladu mwy o ymddiriedaeth rhyngon ni, sefydliadau a’r gymdeithas ehangach, gan atgyfnerthu hyder yn y fframwaith rheoleiddio.

Ni wnaeth saith ymatebydd arall ateb y cwestiwn yma felly maen nhw heb eu cynnwys yn y ffeithlun yma.

2 Diffinnir y trothwy fel rhan o'r dull newydd.

3 Ni wnaeth saith ymatebydd arall ateb y cwestiwn yma felly maen nhw heb eu cynnwys yn y ffeithlun yma.

Ni wnaeth saith ymatebydd arall ateb y cwestiwn yma felly maen nhw heb eu cynnwys yn y ffeithlun yma.

5 https://www.unicef.org.uk/child-friendly-cities/wp-content/uploads/sites/3/2022/06/CRIA_June-2022.pdf

6 https://www.oecd.org/en/publications/economic-implications-of-data-regulation_aa285504-en.html

7 https://ico.org.uk/about-the-ico/our-information/policies-and-procedures/data-protection-fining-guidance/circumstances-in-which-the-commissioner-would-consider-it-appropriate-to-issue-a-penalty-notice/effectiveness-proportionality-and-dissuasiveness/

8 https://complydog.com/blog/gdpr-fines-penalties-2025-enforcement-guide

9 https://ico.org.uk/about-the-ico/what-we-do/complaints-guidance-for-organisations/ 

10 https://sprintlaw.co.uk/articles/handling-ico-complaints-a-stepbystep-business-guide/

11 https://www.lgo.org.uk/information-centre/information-for-organisations-we-investigate/councils/guidance-notes/guide-for-complaint-handlers-a-proportionate-approach-to-considering-complaints?chapter=8

12 https://www.activemind.uk/guides/ico-bfdi-cooperation/

13 https://www.pinsentmasons.com/out-law/analysis/data-protection-enforcement-in-uk-france-and-germany-explained