Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i dalu neu adnewyddu eich ffi flynyddol ar gyfer diogelu data.
Noder: Os nad ydych wedi llenwi ffurflen gais yn barod, ewch i'n tudalen 'Cofrestru' neu cliciwch yma.
Rydym yn anfon e-bost at sefydliadau chwe wythnos cyn i'w ffi ddod i ben. Os yw ni wedi cysylltu â chi'n ddiweddar a bod angen i chi adnewyddu eich ffi, mae nifer o opsiynau talu ar gael.
Sut allai talu?
Debyd uniongyrchol
Os ydych chi'n talu drwy ddebyd uniongyrchol mae gostyngiad o £5 yn y ffi.
I sefydlu debyd uniongyrchol yn electronig, bydd angen eich cyfeirnod archeb a'ch cyfeirnod cofrestru arnoch (anfonwyd y rhain fel rhan o'ch cais neu ohebiaeth adnewyddu). Ar ôl i chi gael y rhain, defnyddiwch y ddolen ganlynol:
Gosodwch eich debyd uniongyrchol ar-lein
Os ydych yn angen mwy nag un llofnod, dim gyda rhif archeb, neu yn cael problemau wrth ddefnyddio'r gwasanaeth, cwblhewch ac anfonwch cyfarwyddiad debyd uniongyrchol, os gwelwch yn dda.
Lawrlwythwch cyfarwyddiadau debyd uniongyrchol
Rydym yn derbyn copïau wedi'u sganio o'r cyfarwyddyd debyd uniongyrchol. Gellir e-bostio'r rhain ar ffurf PDF i [email protected]. Wrth anfon y cyfarwyddyd debyd uniongyrchol atom, rhowch 'Debyd wedi'i gwblhau' yn y llinell pwnc.
Noder: Sicrhewch fod y cyfarwyddyd debyd uniongyrchol wedi'i lofnodi, ei ddyddio ac yn cynnwys eich cyfeirnod cofrestru.
Pan fyddwch yn sefydlu debyd uniongyrchol, bydd y taliad yn cael ei gymryd ar gyfer y taliad eleni yn ogystal â'r blynyddoedd dilynol.
Os byddai'n well gennych dalu ar-lein, bydd angen eich cyfeirnod archeb a'ch cyfeirnod cofrestru arnoch (anfonwyd y rhain fel rhan o'ch cais neu ohebiaeth adnewyddu).
Tip: cliciwch 'Talu' unwaith yn unig, a pheidiwch ag adnewyddu eich tudalen tra bod eich taliad yn cael ei brosesu, gan y gallech dalu ddwywaith.
Siec
Gwnewch eich siec yn taladwy i'r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth, ac ysgrifennwch eich rhif cofrestru ar ei gefn, os gwelwch yn dda.
Os byddwch yn dewis anfon siec, anfonwch hi i'r cyfeiriad canlynol:
FAO Data Protection Fees Team
Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
BACS
Isod mae'r manylion sydd eu hangen arnoch i wneud taliad BACS:
Cyfeirnod [defnyddio eich cyfeirnod cofrestru* ar gyfer y cyfeirnod taliad]
Cod didoli: 16-34-24
Rhyf cyfrif: 11663041
Cyfeiriad:
Royal Bank of Scotland
St Ann's Street
St Ann's Square
Manchester
M2 7PW
Enw'r cyfrif: Information Commissioner Registration Account
BIC RBOS GB 2L
(SWIFT)
IBAN GB77 RBOS 1634 2411 6630 41
*Os fydd well gyda chi i dalu gan BACS, gwnewch yn siwr i gynnwys eich cyfeirnod cofrestru gyda'ch talid, os gwelwch yn dda. I dalu ar gyfer sawl cofrestriadau, anfonwch cyngor taliadau neu e-bost i [email protected]. Os nad yw'r cyfeirnod cofrestru wedi'i gynnwys ar eich cyngor talu, ni fyddwn yn gallu dyrannu'r taliad ac ni fyddwch wedi cofrestru.
Am rhagor o wybodaeth am yr hyn ydyn yn ei gwneud gyda data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd