Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru a thalu'r ffi am y tro cyntaf.
Mae ar gyfer pob sefydliad (rydym yn defnyddio'r term hwn i gynnwys yr holl reolwyr data, gan gynnwys masnachwyr a chwmnïau unig) sydd angen talu ffi i'r ICO.
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen mewn un sesiwn, felly awgrymwn eich bod yn cael popeth sydd ei angen arnoch cyn dechrau. Bydd angen:
- eich manylion cerdyn credyd neu ddebyd, os talu â cherdyn;
- enw a chyfeiriad sefydliad; a
- manylion am nifer y staff sydd gennych a'ch trosiant.