Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Diolch am ddewis talu'ch ffi gofrestru flynyddol drwy ddebyd uniongyrchol.

I sefydlu eich debyd uniongyrchol yn electronig, bydd angen i chi ddarparu enw eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, rhif a chod didoli.

Sylwer: Os nad ydych yn ddeiliad y cyfrif, neu os oes gennych gyfrif busnes ac mae angen mwy nag un person i awdurdodi debydau ar y cyfrif, llenwch gyfarwyddyd debyd uniongyrchol papur yn lle.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu i wirio'ch hunaniaeth yn unig, ac i sefydlu a gweinyddu eich debyd uniongyrchol.

I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd..

Dechrau nawr

Mae'n cymryd tua 5 munud