Beth wnawn ni ar ôl inni orffen ein hymchwiliad?
-
Mae’r canllaw hwn yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i fodloni’r gofynion newydd i gael proses gwynion diogelu data, fel y nodir yn y Ddeddf Data (Defnyddio a Mynediad). Er nad yw’r gofynion hyn yn dod i rym tan 19 Mehefin 2026, rydym o’r farn ei bod yn ddefnyddiol i gyhoeddi hyn nawr fel eich bod yn barod ar gyfer y newidiadau hyn. Hyd yn oed cyn i’r gofynion hyn ddod i rym, rydym o’r farn bod yr hyn a nodir yn y canllaw hwn yn cynrychioli arfer da.
Diweddariadau diweddaraf - 12 Chwefror 2026
12 Chwefror 2026 - cyhoeddwyd y canllaw hwn
Beth wnawn ni ar ôl inni orffen ein hymchwiliad?
Rhoi canlyniad i’r achwynydd
Ar ôl gorffen eich ymchwiliad, mae’n rhaid ichi roi gwybod i’r achwynydd am y canlyniad heb oedi nad oes modd ei gyfiawnhau neu oedi gormodol.
Efallai y byddwch chi’n gallu ymchwilio i’r gŵyn ac yn rhoi canlyniad o fewn 30 diwrnod. Yn yr achosion hyn, nid yw’n ofynnol ichi roi cydnabyddiaeth a chanlyniad ar wahân.
Mater i chi yw sut rydych chi’n cyfathrebu â’r achwynydd ym mhob cam o’r broses, yn amodol ar unrhyw ofynion yn y ddeddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu datrys cwynion symlach yn gyflym dros y ffôn, ar yr amod eich bod wedi gwirio pwy yw’r person.
Dylech esbonio’n glir beth rydych chi wedi’i wneud i ddatrys eu cwyn diogelu data a, lle bo hynny’n briodol, unrhyw gamau rydych chi wedi’u cymryd o ganlyniad iddi. Cynhwyswch ddigon o wybodaeth i helpu’r achwynydd i ddeall sut rydych chi wedi dod i’ch casgliad. Gall fod yn ddefnyddiol rhestru meysydd y gŵyn mewn rhestr o bwyntiau bwled, gan ymateb i bob pwynt a darparu tystiolaeth briodol, lle bo modd.
Os yw’r achwynydd yn anfodlon ar y canlyniad, gallech roi rhagor o fanylion neu egluro’ch penderfyniad. Gallech ystyried cael proses adolygu ar gyfer achwynwyr sy’n dal yn anfodlon ar ganlyniad eu cwynion.
Arfer dda hefyd yw rhoi gwybod iddyn nhw fod ganddyn nhw hawl i gwyno i ni a rhoi ein manylion cysylltu ni iddyn nhw. Does dim rhwymedigaeth i wneud hynny ar hyn o bryd ond mae’n rhaid ichi roi gwybod iddyn nhw am yr hawl i gwyno ar adegau eraill (e.e. pan fyddwch chi’n casglu eu gwybodaeth bersonol am y tro cyntaf).
Does dim rhwymedigaeth i bobl aros ichi adolygu’ch penderfyniad cyn cwyno i ni. Mae pobl yn cael cwyno i ni unrhyw bryd.
Dim ond cwynion am ddiogelu data y gallwn ni ymdrin â nhw. Os yw’r gŵyn yn ymwneud â fframwaith deddfwriaethol neu reoleiddiol arall, fyddwn ni ddim yn gallu rhoi cyngor. Gall hyn olygu eich bod chi’n cyfeirio’r achwynydd aton ni ar gyfer materion diogelu data, ac at wasanaeth arall ar gyfer agweddau eraill ar yr un gŵyn.
Rhagor o ddeunydd darllen
For more information about how people can make a complaint to us about how you’ve used their personal information, and for our contact details, see Make a complaint about how an organisation has used your personal information.
Adolygu'r gwersi a ddysgwyd
Ar ôl ichi roi canlyniad, dylech adolygu’r hyn ddigwyddodd. Ystyriwch a oes unrhyw beth y gallwch ei ddysgu neu ei wella er mwyn atal cwynion yn y dyfodol. Gall cofnodi’r wybodaeth yma eich helpu i nodi tueddiadau neu feysydd i’w gwella.