Neidio i’r prif gynnwys

Beth yw cwynion diogelu data?

Cynnwys

Diweddariadau diweddaraf - 12 Chwefror 2026

12 Chwefror 2026 - cyhoeddwyd y canllaw hwn

Beth yw cwynion diogelu data?

Os oes rhywun o’r farn eich bod wedi torri’r ddeddfwriaeth diogelu data oherwydd y ffordd rydych chi wedi trin eu gwybodaeth bersonol (neu wybodaeth bersonol rhywun y maen nhw’n gweithredu ar eu rhan), maen nhw’n cael cwyno ichi.

Er mwyn cwyno, does dim rhaid iddyn nhw ddefnyddio termau cyfreithiol na dyfynnu adrannau o’r ddeddfwriaeth.

Er enghraifft, gall pobl gyflwyno cwynion am:

  • y ffordd rydych chi wedi ymateb i’w cais nhw am weld gwybodaeth (SAR), neu gais arall ynglŷn â’u hawliau;
  • y mesurau diogelwch rydych chi wedi’u defnyddio i storio’u gwybodaeth (e.e. rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan dor data, ni waeth a oes rhaid rhoi gwybod i ninnau amdano ai peidio); neu
  • sut rydych chi wedi casglu neu wedi defnyddio’u gwybodaeth bersonol (e.e. ble rydych chi wedi’i storio, ers faint rydych chi wedi’i chadw, neu ei chywirdeb).

Weithiau gall pobl gwyno am eich gwasanaeth neu faterion eraill, ac arfer eu hawliau diogelu data yr un pryd. Nid yw hyn yn cyfrif fel cwyn diogelu data. Er enghraifft:

  • gall cyflogai godi cynnen, a hefyd gofyn am gopïau o’u gwybodaeth bersonol; neu
  • gall person gwyno am wasanaeth rydych chi’n ei ddarparu, a hefyd ofyn am gael arfer un neu ragor o’u hawliau diogelu data.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw rhywun yn gwneud cwyn diogelu data, fe ddylech chi ofyn iddyn nhw egluro.

Darllenwch y canllawiau yma i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r hyn y mae’n rhaid ichi ei wneud.