Neidio i’r prif gynnwys

Sut i gael gwybodaeth gan awdurdod cyhoeddus

Cynnwys

Diweddaraf - 29 Awst 2024

29 Awst 2024- Rydyn ni wedi ychwanegu rhestr wirio "Chwilio am wybodaeth" i'r adran "Awgrymiadau gorau”.

Sut ydy e'n gweithio?

Mae ganddwch chi'r hawl i ofyn am gwybodaeth wedi'i recordio sydd wedi'i ddal gan awdurdodau cyhoeddus. Y gwybodaeth mwyaf amlwg yw copiau electronig neu papur o ddogfenau ffurfiol, fel polisiau neu munudau o gyfarfodydd. Ond, gallwch chi hefyd gofyn am wybodaeth o recordiau gwahanol fel e-bostiau, ffotograffau, neu recordiau swn.

Mae yna ddeddfau sy'n rhoi'r hawl yma ichi weld gwybodaeth, sef:  

  • y Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA);
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR); a
  • INSPIRE Regulations. 

Mae'r cymorth yn ffocysu ar y FOIA ac EIR. Gallwch ffeindio mwy o wybodaeth ar INSPIRE yn einCanllawiadau i'r rheoliadau'r INSPIRE

Os byddwch chi’n gofyn am wybodaeth, rhaid i awdurdodau cyhoeddus ei darparu, oni bai bod rheswm da dros beidio â gwneud hynny.

Rydyn ni’n defnyddio'r ymadrodd "cais am wybodaeth" i gynnwys y ceisiadau y gallwch eu gwneud drwy ddefnyddio’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r EIR;

Os ydych chi eisiau gofyn am gopi o'ch gwybodaeth personol chi oddi wrth awdurdod cyhoeddus, gwnewchcais gwrthrych am wybodaeth.

Pwy gallwch chi ofyn?

Gallwch gofyn am wybodaeth o unrhyw awdurdod cyhoeddus yn Lloegr, Cymru, neu'r Gogledd Iwerddon, a awdurdodau cyhoeddus dros y DU sydd wedi'u sefydlu yn Yr Alban.Mae gan Yr Alban deddfwriaeth ei hun, sy'n gorchuddio awdurdodau cyhoeddys Yr Alban, ag ei gomisiynydd.

Esiamplau o awdurdodau cyhoeddus:

  • adrannau llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, chyrffoedd cyhoeddus, a phwyllgorau arall;
  • cynghorau lleol;;
  • ysgolion, colegau a phrifysgolion;
  • gwasanaethau iechyd cyhoeddus - gan gynnwys ysbytai, doctoriaid, deintydd, feryllwyr, ac optegwyr;
  • cwmnïau sy'n perthyn i'r cyhoedd;
  • amgueddfeydd, orielau a theatrau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus; a'r
  • gwasanaethau heddlua thân.

Gallwch wneud cais gwybodaeth amgylcheddol i rai cwmniau preifat neu cyhoeddus sy'n gyda cyfrifoldebau cyhoeddus - fel cwmniau ddwr.

Os nad ydych chi'n siŵr a gewch chi wneud cais i sefydliad, gallwch gysylltu â ni drwy'n llinell gymorth ar0303 123 1113 or ein sgwrs fyw.

Tipiau gorau

I wneud ceisiadau am wybodaeth mor effeithlon ac effeithiol a phosib, defnyddiwch y dull yma:

  1. Chwiliwch yn gyntaf.Mae awdurdodau cyhoeddus yn cyhoeddi llawer iawn o wybodaeth. Efallai y byddwch yn dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano trwy chwilio ar-lein neu edrych ar fap y wefan. Os yw'r wybodaeth eisoes yn y parth cyhoeddus, efallai y byddai'n gyflymach dod o hyd iddi na gofyn amdani. I gael rhagor o gyngor, gweler "Chwilio am wybodaeth" isod.
  2. Cadwch e'n clir.Gwnewch eich cais mor syml a phosib. Efallai bydd rhestrau wedi'i niferu neu pwyntiau bwled yn helpu gyda'r strwythr eich cais. Triwch wneud e'n mor hawdd a phosib i'r awdurdod cyhoeddus i ddeall.
  3. Bod yn neis.Hyd yn oed os ydych chi'n anhapus gyda'r sefydliad, triwch i roi eich barn i un ochr a ffocysu ar y gwybodaeth rydych chi eisiau derbyn. Os posib, cadwch eich cais am wybodaeth ar wahan o unrhyw e-bostiau neu cwynau eraill.
  4. Darllenwch dwywaith.Cyn i chi anfon cais, edrychwch unwaith eto i wneud yn siwr fod e'n clir ac yn hawdd i ddilyn. Os nad ydych chi'n siwr, cymerwch ail barn o rywun ti'n nabod. Gallwn nhw spotio rhywbeth efallai nad ydych chi wedi. Os ydy'r awdurdod cyhoeddus angen gofyn i chi i esbonio rhywbeth, bydd eich cais yn cymryd mwy o amser nag sydd angen.

Chwilio am wybodaeth

Gallai'r adnoddau canlynol eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth rydych chi'n chwilio amdani.

  • Cynlluniau cyhoeddi, adroddiadau blynyddol, polisïau a setiau data a gyhoeddir ar wefannau awdurdodau cyhoeddus.Mae'r mathau yma o ddogfennau yn esbonio pwy yw'r sefydliad, beth maen nhw'n ei wneud a sut, a sut maen nhw'n perfformio. Os na allwch chi ddod o hyd i ddogfennau ar eu gwefan yn hawdd, chwiliwch am fap o’r wefan, a allai helpu.
  • Logiau datgelu ar wefannau awdurdodau cyhoeddus.Mae'r rhain yn caniatáu ichi ddarllen ymatebion awdurdod cyhoeddus i geisiadau blaenorol am wybodaeth.
  • WhatDoTheyKnow yn gofrestr gyhoeddus o dros filiwn o geisiadau am wybodaeth, ac ymatebion gan filoedd o awdurdodau cyhoeddus.
  • Chwiliadau uwch ar wefan awdurdod cyhoeddus. Er enghraifft:
    • Defnyddiwch Google's dangosfwrdd chwilio uwch neu gyfleusterau tebyg ar beiriannau chwilio eraill.
    • Ychwanegwch "site:" at eich ymholiad chwilio (ee "adroddiad blynyddol site:ico.org.uk").
    • Chwiliwch am fath penodol o ffeil yn eich ymholiad chwilio. Yn Google mae'n "filetype:" (ee "adroddiad blynyddol yr ICO filetype:pdf").
  • Fersiynau blaenorol o'r wefan. Gall edrych ar luniau hanesyddol o wefan sefydliad eich helpu i adennill gwybodaeth nad yw’ gyfredol erbyn hyn. Gallwch chwilio am fersiynau blaenorol o'r wefan drwy ddefnyddio:
  • Rheoleiddwyr cenedlaethol neu gyrff eraill.Mae'r sefydliadau yma yn debygol o gyhoeddi gwybodaeth y maen nhw’n ei chasglu am y cyrff y maen nhw’n eu goruchwylio. Er enghraifft:
  • Cyfnodolion, adroddiadau neu erthyglau academaidd. Efallai y bydd angen tanysgrifiad ar gyfer y rhain, ond fe allen nhw fod ar gael hefyd trwy lyfrgell, cyflogwr, corff proffesiynol neu sefydliad addysg lleol.  
  • Sefydliadau’r gymdeithas sifil, ymchwilwyr arbenigol a newyddiadurwyr.Mae sefydliadau ac unigolion arbenigol yn cyhoeddi ymchwil a barn, ac yn rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol

Diogelwch arian cyhoeddus

Mae gennych chi hawl i weld gwybodaeth gyhoeddus ac mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus barchu hynny.

Er hynny, mae ceisiadau yn costio amser ac arian i gyrff cyhoeddus ymateb iddyn nhw. Arian cyhoeddus yw hwn ac mae angen i ni sicrhau ei fod yn cael ei wario'n gyfrifol.

Mae'n bwysig na ddylech chi gyflwyno ceisiadau gwamal neu ddibwys.

Ddylech chi ddim gwneud ceisiadau am yr un wybodaeth fwy nag unwaith, oni bai bod yr wybodaeth wedi newid lawer.

Ni ddylech chi wneud ceisiadau fel ffordd o gosbi cyrff cyhoeddus, os ydych chi'n meddwl bod nhw wedi gwneud rhywbeth yn anghywir. Os ydych chi'n wneud unrhywbeth uwchben, gall y corff cyhoeddus ystyried eich cais a wrthod i weithredu.