Neidio i’r prif gynnwys

Talu

Rydyn ni wrthi’n gwella’n gwefan ac fe hoffen ni gael eich barn chi.
Cymerwch bum munudlenwi'r arolwg ymai roi eich adborth.

Defnyddiwch y gwasanaeth yma i dalu neu adnewyddu’ch ffi diogelu data flynyddol.

Os ydych chi heb lenwi ffurflen gofrestru eto, ewch i'ntudalen cofrestru.  

Os ydych chi'n talu drwy ddebyd uniongyrchol mae gostyngiad o £5 yn y ffi.

Os ydych chi wedi cael hysbysiad o fwriad i roi hysbysiad cosb, defnyddiwch y gwasanaeth yma i dalu'ch ffi. Unwaith y bydd eich ffi wedi’i thalu, bydd ein cofnodion yn cael eu diweddaru'n awtomatig a fydd dim cosb yn cael ei anfon atoch.

Sut allai talu?

Cerdyn debyd neu gredyd

Byddwch yn angen:

  • cyfeirnod eich archeb; a
  • cyfeirnod cofrestru.

Rydyn ni wedi anfon y rhain fel rhan o'ch cais neu’ch gohebiaeth adnewyddu.

Talu gyda cherdyn

Debyd uniongyrchol

I sefydlu debyd uniongyrchol yn electronig, bydd arnoch chi angen :

  • cyfeirnod eich archeb; a
  • cyfeirnod cofrestru.

Fe anfonon ni'r rhain fel rhan o'ch cais neu'ch gohebiaeth adnewyddu.

Mae taliadau debyd uniongyrchol yn cael eu cymryd yn awtomatig bob blwyddyn nes bod y debyd uniongyrchol yn cael ei ganslo.

Talu drwy ddebyd uniongyrchol

Cyfarwyddiadau bedyb uniongyrchol

Os ydych chi'n newid eich manylion banc, os oes angen nifer o lofnodion, os nad oes gennych gyfeirnod archeb, neu os nad ydych fel arall yn gallu defnyddio'r gwasanaeth ar-lein, llenwch a dychwelwchcyfarwyddyd debyd uniongyrchol papur

Gwnewch yn siŵr bod y cyfarwyddyd debyd uniongyrchol wedi'i lofnodi, wedi'i ddyddio ac yn cynnwys eich cyfeirnod cofrestru.

Rydyn ni’n derbyn copïau wedi'u golygu neu wedi'u sganio o'r cyfarwyddyd debyd uniongyrchol. Anfonwch y rhain drwy'r ebost mewn fformat PDF i[email protected] , rhowch ‘Debyd uniongyrchol wedi'i gwblhau' yn y llinell pwnc.

BACS

Rhaid ichi gynnwys eichcyfeirnod cofrestrugyda'ch taliad BACS. Os nad yw'n cael ei gynnwys ar eich hysbysiad talu, fyddwn ni ddim yn gallu dyrannu'r taliad a fyddwch chi ddim yn cael eich cofrestru.


Y manylion sydd eu hangen arnoch i wneud taliad BACS yw:

Eich cyfeirnod cofrestru:sy'n dechrau â Z, A neu C.

Cod didoli: 16-34-24

Rhif y cyfrif: 11663041

Cyfeiriad:

Royal Bank of Scotland
St Ann's Street
St Ann's Square
Manchester
M2 7PW

Enw'r cyfrif

Cyfrif Cofrestru'r Comisiynydd Gwybodaeth
BIC RBOS GB 2L
(SWIFT)
IBAN GB77 RBOS 1634 2411 6630 41

Er mwyn talu nifer o gofrestriadau, anfonwch hysbysiad talu neu neges ebost eglurhaol at[email protected] .

Siec

I dalu trwy siec, bydd angen ichi:

  • gwneud eich siec yn daladwy i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth; ac
  • ysgrifennu’ch cyfeirnod cofrestru ar y cefn.

Anfonwch y siec at:

FAO Data Protection Fees Team
Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Sylwch: Dydyn ni ddim yn darparu anfonebau gan cofrestru yn ofynnol o dan y gyfraith.

Am rhagor o wybodaeth am yr hyn ydyn yn ei gwneud gyda data personol, gweler ein polisi preifatrwydd

  Faint sydd angen i mi ei dalu?

Defnyddiwch ein hunanasesiad cyflym i ddarganfod faint sydd angen ichi ei dalu.