Neidio i’r prif gynnwys

Diolch

Diolch ichi am gyflwyno'ch cwyn. Byddwch yn cael ymateb awtomataidd yn fuan sy'n cadarnhau ei bod wedi dod i law.

Rydyn ni’n deall y gall materion sy'n ymwneud â'ch gwybodaeth bersonol achosi trallod ac anhawster a byddwn yn gweithredu ar eich cwyn cyn gynted â phosibl. Rydyn ni’n deall y gallai eich pryder diogelu data fod yn un rhan o broblem neu brofiad llawer mwy, Rydyn ni wedi llunio rhestr o sefydliadau eraill a allai hefyd allu eich cefnogi ar hyn o bryd.

Beth sy'n nesaf

Graddfa amser

Rydyn ni’n cefnogi nifer fawr o bobl gyda'u cwynion ar hyn o bryd ac mae'n cymryd o gwmpas24 Wythnosi ddyrannu cwynion newydd. Rydyn ni’n ymddiheuro am yr oedi yma ond hoffem eich sicrhau ein bod yn cymryd eich cwyn o ddifrif.

Y broses gwyno

Bydd un o'n swyddogion achosion yn edrych ar eich cwyn.

Bydd y swyddog achosion:

  • yn pwyso a mesur ffeithiau'r hyn sydd wedi digwydd, yn deg ac yn ddiduedd;
  • gofyn chi ac y sefydliad am wybodaeth pellach, os ydyn nhw'n meddwl bod angen; a
  • dweud i chi y canlyniad.

Os oes cyfraith wedi'i thorri, byddwn ni fel arfer yn rhoi cyngor fel y gall y sefydliad gywiro pethau a gwella'u harferion diogelu data.

Os yw'r sefydliad wedi gwneud y peth iawn ond heb esbonio'u penderfyniad neu eu gweithredoedd yn glir ichi, efallai y byddwn ni'n dweud wrthyn nhw am gyfathrebu â chi eto.

Gallwch chirhagor o wybodaeth am y broses gwyno, canlyniadau posibl a beth i'w wneud os ydych chi'n anhapus â sut rydyn ni’n ymdrin â'ch cwyn.

Cyfathrebu

Byddwn ni'n cysylltu â chi ynghylch eich cwyn drwy'r ebost neu dros y ffôn. Cysylltwch â niRhowch wybod inni os oes angen i ni gyfathrebu â chi mewn ffordd benodol neu amgen. Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'ch anghenion.