Diolch
Gwych, rydyn ni wedi cael eich gwybodaeth. Diolch i chi am gymryd yr amser i’w hanfon atom.
Mae pob adroddiad a gawn yn ein helpu i weithredu yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am negeseuon ebost sbam Os cewch ragor o negeseuon ebost sbam, dewch yn ôl i roi gwybod inni amdanyn nhw.
Beth rydyn ni’n ei wneud â’r wybodaeth?
Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a anfonwch atom i’n helpu i adnabod sefydliadau sy’n achosi pryder ichi, ymchwilio iddyn nhw a chymryd camau yn eu herbyn. I wneud hyn, rydym yn cydweithio â rheoleiddwyr eraill. Dydyn ni ddim yn ymateb i bryderon yn unigol.
Pa gamau sydd wedi’u cymryd gan yr ICO eisoes?
Gallwch ddarllen am y camau rydyn ni wedi’u cymryd yn erbyn cwmnïau sydd wedi torri’r gyfraith ynglŷn â negeseuon e-bost sbam, a chyfreithiau eraill ar hawliau gwybodaeth.
Beth arall alla i ei wneud?
I ganfod sut i atal negeseuon ebost sbam, a beth arall y gallwch ei wneud, darllenwch ein canllawiau ar negeseuon ebost sbam a diogelwch ar-lein.