Neidio i’r prif gynnwys

Gwnewch cwyn ynghylch sut mae sefydliad wedi defnyddio eich gwybodaeth personol

Gwneud cwyn i'r ICO

Os nad ydych chi wedi cael ymateb i'ch cwyn ar ôl un mis gallwch gwyno i ni.

Please note: An organisation can refuse or only provide some of the information you have asked for when an esemptiad yn gymwys.

Os ydych chi’n cwyno i'r ICO, bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

    • copïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost am eich cwyn, rhyngoch chi a'r sefydliad (os byddwch chi’n cyflwyno sgrinlun o unrhyw negeseuon ebost, negeseuon, llythyrau ac ati, gofalwch gynnwys y dyddiad y cawsoch chi nhw neu eu hanfon nhw); a
    • unrhyw dystiolaeth arall sy'n ategu’ch cwyn.

Os ydych chi’n cwyno ar ran rhywun arall, bydd angen ichi anfon llythyr o gydsyniad wedi'i lofnodi ganddyn nhw neu dystiolaeth eich bod chi'n cael gweithredu ar eu rhan.

Os nad fyddwch chi’n darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gall hynny ohirio’r cynnydd ar eich cwyn.

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch cwyn mae'n rhaid i chi atodi'r ymatebion rydych chi wedi’u cael gan y sefydliad. Os na fyddwch yn atodi'r wybodaeth hon wrth gyflwyno'r ffurflen bydd cynnydd eich cwyn yn cael ei ohirio.

I gael gwybodaeth am yr hyn yr ydyn ni’n ei wneud â data personol polisi preifatrwydd.