Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth am beth i'w wneud nesaf os ydych chi wedi cael problem yn gweld eich gwybodaeth bersonol gan sefydliad, neu os ydych chi’n anfodlon ar sut mae sefydliad wedi ymdrin â'ch gwybodaeth chi neu wybodaeth pobl eraill.

Dylech chi roi cyfle i'r sefydliad rydych chi'n anfodlon arno ddatrys pethau cyn ichi droi aton ni.

Os ydych chi’n cwyno i'r ICO, bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • copïau o unrhyw lythyrau neu negeseuon ebost am eich cwyn, rhyngoch chi a'r sefydliad; a
  • unrhyw dystiolaeth arall sy'n ategu’ch cwyn.

Os ydych chi’n cwyno ar ran rhywun arall, bydd angen ichi anfon llythyr o gydsyniad wedi'i lofnodi ganddyn nhw neu dystiolaeth eich bod chi'n cael gweithredu ar eu rhan.

Os nad fyddwch chi’n darparu'r wybodaeth angenrheidiol, gall hynny ohirio’r cynnydd ar eich cwyn.

Rhagor o ddeunydd darllen

Rhagor o wybodaeth am ein proses gwyno a chanlyniadau posibl eich cwyn

Bydd hyn yn cymryd 5 munud

Dechrau nawr