Rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant a phobl ifanc yn y sector addysg yn y Deyrnas Unedig
-
Gan fodDeddf Data (Defnyddio a Gweld) wedi dod yn ddeddf gwlad ar 19 Mehefin 2025, mae’r canllawiau yma yn cael eu hadolygu ac fe allen nhw gael eu newid. Bydd y tudalen Cynlluniau ar gyfer canllawiau newydd a diwygiedigyn dweud pa ganllawiau a gaiff eu diweddaru a pha bryd.
Beth yw diben y canllawiau yma?
- Mae'r canllawiau byr yma ar gyfer pobl a sefydliadau yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithio yn y sector addysg gyda phlant a phobl ifanc o dan 18 oed. Dylen nhw eich helpu i deimlo'n hyderus i rannu gwybodaeth bersonol at ddibenion diogelu.
- Maen nhw'n ategu’n canllawiau cyffredinol:Canllaw 10 cam ar rannu gwybodaeth i ddiogelu plant. Dylech ddefnyddio'r ddau ddarn gyda'i gilydd.
- Maen nhw'n esbonio'r agweddau diogelu data ar rannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant a phobl ifanc; nid canllaw i arferion diogelu mohono.
Canllawiau i bwy yw’r rhain??
Mae'r sector addysg yn eang, felly mae rhychwant y canllawiau yma yn cynnwys:
- ysgolion a cholegau yn y sectorau preifat a chyhoeddus;
- prifysgolion a sefydliadau addysg uwch eraill sydd â myfyrwyr o dan 18 oed, yn ogystal â gweithgareddau fel ysgolion haf sy’n cael eu cynnal gan ddarparwyr allanol;
- meithrinfeydd, yn y sectorau preifat a chyhoeddus; a
- lleoliadau y tu allan i'r ysgol, fel clybiau cyn-ysgol ac ar ôl ysgol a grwpiau a gweithgareddau eraill.
Rydyn ni’n bwriadu cynhyrchu canllawiau ar rannu gwybodaeth at ddibenion diogelu ar gyfer sectorau eraill a allai hefyd fod yn ddefnyddiol pan fyddan nhw ar gael. Mae'r rhain yn debygol o ymdrin â sectorau fel iechyd, awdurdodau lleol, a'r sectorau gwirfoddol, cymdeithasol a phreifat.
Beth sydd angen inni ei wybod?
- Nid yw diogelu data yn rhwystr i rannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant a phobl ifanc; mae'n rhoi fframwaith ichi wneud hynny yn y ffordd iawn.
- Mewn argyfwng, peidiwch ag oedi cyn rhannu gwybodaeth i ddiogelu plentyn neu berson ifanc.
- Peidiwch â bod ofn rhannu gwybodaeth pan fo angen hynny i ddiogelu plant a phobl ifanc. Er enghraifft, yn Lloegr, mae'r Adran Addysg (DfE) yn glir yn eiChanllawiau Keeping children safe in education: “The Data Protection Act 2018 and UK GDPR do not prevent the sharing of information for the purposes of keeping children safe. Fears about sharing information must not be allowed to stand in the way of the need to safeguard and promote the welfare and protect the safety of children.”
- Defnyddiwch ein Canllaw 10 cam a'n ffeithlun rhannu gwybodaeth i ddiogelu plentyni'ch helpu chi. Mae hyn yn cynnwys defnyddio sail gyfreithlon briodol, ac yn rhoi mwy o fanylion am hynny.
- Dilynwch y canllawiau, yr hyfforddiant a'r gweithdrefnau sydd wedi'i rhoi ichi gan eich sefydliad neu'ch corff rheoleiddio.
- Os nad ydych chi'n gwybod neu os nad ydych chi'n siŵr beth i'w wneud, gofynnwch i'ch arweinydd diogelu, eich swyddog diogelu data (DPO), eich rheolwr neu bennaeth eich sefydliad am help.
- Rydyn ni wedi cynnwys enghreifftiau yn y canllawiau yma ar gyfer ystod o senarios i'ch helpu i feddwl am eich gwaith.
- Mae dolenni mewn cwymplenni i ffynonellau allanol canllawiau ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr.