Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ychwanegu neu ddiweddaru Swyddog Diogelu Data (SDD).

Bydd angen eich cyfeirnod cofrestru a'ch rhif diogelwch.

Os mai chi yw'r cyswllt a enwebwyd ac na allwch ddod o hyd i'ch rhif diogelwch, gallwch ofyn am nodyn atgoffa isod.

Gofyn am rhif diogelwch

Os na allwch ofyn am y rhif diogelwch, gallwch anfon e-bost atom ar [email protected]. Wrth anfon eich e-bost atom, rhowch 'Ychwanegwch SDD' yn y llinell pwnc. Yng nghorff yr e-bost, dylech gynnwys:

  • y cyfeirnod cofrestru ar gyfer eich sefydliad;
  • a yw'n ofynnol i chi ddarparu manylion eich SDD neu os ydych yn gwneud hynny'n wirfoddol; a
  • enw, cyfeiriad, rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost eich SDD os ydynt yn unigolyn (e.e. aelod o staff neu aelod o'ch sefydliad); neu
  • enw, cyfeiriad, rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost y sefydliad allanol a fydd yn cyflawni dyletswyddau'r SDD ar eich rhan.

Noder: Byddwn yn cyhoeddi manylion yr holl reolwyr sy'n talu'r ffi diogelu data ar y ‘gofrestr o dalwyr ffioedd'. Nodwch yn glir yn eich e-bost a ydych am gyhoeddi enw eich SDD os ydynt yn unigolyn.

Os ydych yn ansicr neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar Swyddogion Diogelu Data.

I gael gwybodaeth am yr hyn ydyn yn ei gwneud gyda data personol, gweler ein hysbysiad preifatrwydd