Ychwanegu Swyddog Diogelu Data (SDD)
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ychwanegu neu ddiweddaru Swyddog Diogelu Data (SDD).
Bydd angen eich cyfeirnod cofrestru a'ch rhif diogelwch.
Os mai chi yw'r cyswllt a enwebwyd ac na allwch ddod o hyd i'ch rhif diogelwch, gallwch ofyn am nodyn atgoffa isod.
Os na allwch ofyn am y rhif diogelwch, gallwch anfon e-bost atom ar [email protected]. Wrth anfon eich e-bost atom rhowch 'Ychwanegwch SDD' yn y llinell pwnc. Yng nghorff yr e-bost, dylech gynnwys:
- y cyfeirnod cofrestru ar gyfer eich sefydliad;
- a yw'n ofynnol i chi ddarparu manylion eich SDD neu os ydych yn gwneud hynny'n wirfoddol; a
- enw, cyfeiriad, rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost eich SDD os ydynt yn unigolyn (e.e. aelod o staff neu aelod o'ch sefydliad); neu
- enw, cyfeiriad, rhif ffôn a/neu gyfeiriad e-bost y sefydliad allanol a fydd yn cyflawni dyletswyddau'r SDD ar eich rhan.
Noder: yn cyhoeddi manylion yr holl reolwyr sy'n talu'r ffi diogelu data ar y 'gofrestr o dalwyr ffioedd'. Nodwch yn glir yn eich e-bost a ydych am gyhoeddi enw eich SDD os ydynt yn unigolyn.
Os ydych yn ansicr neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau ar Swyddogion Diogelu Data.
I gael gwybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud gyda data personol, gweler einpolisi preifatrwydd.