Mae'r ICO yn bodoli i'ch grymuso chi drwy gyfrwng gwybodaeth.

1. Ydych chi’n defnyddio CCTV er mwyn atal troseddau?

Nid yw hyn yn cynnwys teledu cylch cyfyng domestig, na chynrychiolwyr etholedig sy'n ei ddefnyddio ar gyfer eu gweithgareddau etholedig penodol.

Dylech ddewis 'Ydw' i'r cwestiwn hwn os ydych yn defnyddio dashcam ar eich cerbyd gwaith neu ynddo. Os yw’r dashcam yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaith hefyd, ni chaiff ei ystyried yn un 'domestig' ac felly mae'n debygol y bydd angen ichi gofrestru a thalu ffi diogelu data i'r ICO oni bai eich bod wedi'ch esemptio.