Neidio i’r prif gynnwys

Cofrestru

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru a thalu'r ffi am y tro cyntaf.

Mae ar gyfer pob  sefydliad  (rydyn ni’n defnyddio'r term yma i gynnwys yr holl reolwyr data, gan gynnwys unig fasnachwyr a chwmnïau) y mae angen iddyn nhw dalu ffi i'r ICO.

Bydd angen ichi lenwi'r ffurflen mewn un sesiwn, felly rydyn ni’n awgrymu y dylech chi gael gafael ar bopeth sydd ei angen arnoch cyn ichi ddechrau. Bydd arnoch chi angen:

  • eich manylion cerdyn credyd neu ddebyd, os talu â cherdyn;
  • enw a chyfeiriad sefydliad; a
  • manylion am nifer y staff sydd gennych a'ch trosiant.

Dydyn ni ddim yn darparu anfonebau gan fod cofrestru yn ofynnol o dan y gyfraith.

Tymryd tua 15 munud

Wedi cofrestru yn barod?

Defnyddiwch y gwasanaeth yma i adnewyddu eich ffi diogelu data blynyddol.

 

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i brosesu eich taliad ac i gynnal y gofrestr gyhoeddus. Byddwn yn cyhoeddi'r holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu, ac eithrio lle rydyn ni'n dweud fel arall. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.

Pan fyddwn yn derbyn eich taliad, byddwn fel arfer yn anfon cadarnhad y diwrnod gwaith canlynol, ac yn cyhoeddi eich cofrestriad ar y gofrestr sy'n talu ffi o fewn saith diwrnod gwaith.