Esemptiadau
Os ydych chi'n gwybod bod eich cwmni wedi'i esemptio rhag talu'r ffi diogelu data a pham,   llenwch y ffurflen yma fel y gallwn ni roi'r gorau i ysgrifennu atoch.
Ar ôl ichi gyflwyno'r ffurflen yma, efallai y byddwn ni am fynd ar ôl pethau gyda chi os bydd arnon ni angen rhagor o fanylion. Dylech gadw cofnod o pam rydych chi’n credu nad oes rhaid ichi dalu'r ffi rhag ofn y byddwn ni’n eich herio ar hyn yn y dyfodol.
Os hoffwch chi gwirio os oes angen talu cyn rhoi'r ffurflen i fewn, cymerwch ein hunanasesiad.
Os oes gennych nam ac efallai y bydd angen addasiad gwasanaeth arnoch, rhowch wybod i ni.